Anfield
Stadiwm pêl-droed yw Anfield, a leolir yn yr ardal o'r un enw yn Lerpwl, Lloegr. Mae'r stadiwm yn seddi i gyd ers addasu'r Spion Kop yn 1994. Adeiladwyd y stadiwm ym 1884 a dyma oedd cartref gwreiddiol tîm pêl-droed Everton. Chwaraeodd y clwb ar y safle tan 1892, pan adawsant ar ôl anghydfod ynglŷn â'r rhent. Ers hynny, ma'r stadiwm wedi bod yn gartref i dîm pêl-droed Lerpwl, a ffurfiwyd o ganlyniad i Everton yn gadael Anfield.
Math | stadiwm pêl-droed |
---|---|
Enwyd ar ôl | Enfield |
Agoriad swyddogol | 1885 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Lerpwl |
Sir | Anfield, Dinas Lerpwl |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.4308°N 2.9608°W |
Rheolir gan | C.P.D. Lerpwl |
Perchnogaeth | Fenway Sports Group |
Mae'r stadiwm yn cyrraedd lefel 4-seren Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeaidd, ac mae nifer o gêmau rhyngwladol ar lefel uchel wedi eu cynnal yno, gan gynnwys gêmau Lloegr. Defnyddiwyd y safle hefyd yn ystod Ewro 96 ac fe chwaraeodd Cymru rhai o'u gemau cartref yno ar ddiwedd y 1990au tra roedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei gwblhau.
Yn bellach yn ôl yn hanes y stadiwm, defnyddiwyd Anfield ar gyfer gweithgareddau eraill, megis paffio a gêmau tenis.