Siroedd seremonïol Lloegr
Mae'r siroedd seremonïol Lloegr yn ardaloedd o Loegr y penodir Arglwydd Raglawiaid. Yn gyfreithiol, mae'r ardaloedd yn Lloegr, yn ogystal ag yng Nghymru a'r Alban, yn cael eu diffinio gan Ddeddf Rhaglawiaethau 1997 (Saesneg: Lieutenancies Act 1997) fel "siroedd ac ardaloedd at ddibenion yr raglawiaethau ym Mhrydain Fawr", mewn cyferbyniad â'r ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer llywodraeth leol.
Mae'r mwyafrif o'r siroedd seremonïol yn cyfateb yn fras i siroedd hanesyddol Lloegr, ac mae eu lleoliadau yn weddol gyfarwydd i'r mwyafrif o drigolion ledled y wlad, felly mae eu henwau'n labeli defnyddiol ar gyfer nodi lleoliadau daearyddol ynddi.
Mewn cyferbyniad, er bod y system bresennol o siroedd metropolitan ac an-fetropolitan a sefydlwyd ym 1974 yn bwysig ar gyfer gweinyddiaeth llywodraeth leol, mae llawer o'r rhain yn llai cyfarwydd i bobl sy'n byw y tu allan i'r ardaloedd hynny.
Rhestr o'r siroedd
† <sir seremonïol yn cwmpasu ardal fwy na'r sir an-fetropolitan o'r un enw> Gweler hefyd |