Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Arabeg

iaith
(Ailgyfeiriad o Arabic language)

Iaith Semitaidd yw'r Arabeg (العَرَبِيةُ), gan ddeillio o Arabeg Glasurol yn y 6g. Fel ieithoedd Semitaidd eraill (heblaw Malteg), ysgrifennir Arabeg o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2]

Arabeg
العربية/عربي/عربى al-ʻarabiyyah/ʻarabī 

al-ʿArabiyyah yn Arabeg ysgrifenedig (sgript Naskh)
Ynganiad IPA /al ʕarabijja/, /ʕarabiː/
Siaredir yn Gwledydd y Gynghrair Arabaidd, Israel, Iran, Twrci, Eritrea, Mali, Niger, Tsiad, Senegal, De Swdan, Ethiopia, cymunedau Arabeg yn y Byd Gorllewinol
Cyfanswm siaradwyr 295 miliwn (2010)[1]
Teulu ieithyddol
System ysgrifennu Yr wyddor Arabeg
Breil Arabeg
Yr wyddor Syrieg (Garshuni)
Yr wyddor Hebraeg (Judaeo-Arabeg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Mae Arabeg safonol yn iaith swyddogol mewn 27 gwlad
Rheoleiddir gan Nid oes rheoliad swyddogol
Codau ieithoedd
ISO 639-1 ar
ISO 639-2 ara
ISO 639-3 ara
Wylfa Ieithoedd
Gwasgariad o siaradwyr Arabeg brodorol fel y boblogaeth mwyafrif (gwyrdd) neu leiafrifol (gwyrdd golau)

Heddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n Arabeg Lenyddol.[3]

Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.

Yr wyddor Arabeg

golygu

Ysgrifennir yr wyddor Arabeg o'r dde i'r chwith. Rhennir y llythrennau yn ddau fath: y rhai sydd yn cysylltu ar y naill ochr a'r llall, a'r rhai sydd yn cysylltu â'r llythyren flaenorol yn unig. Yn y dosbarth cyntaf mae ffurf flaen, canol, olaf, ac annibynnol i bob llythyren; yn yr ail ddosbarth mae ffurf olaf ac annibynnol yn unig.

Ffonoleg

golygu

Mae ynganiad Arabeg yn amrywio o wlad i wlad ac o ardal i ardal, yn enwedig o ran llafariaid.

Cytseiniaid

golygu

Dyma'r cytseiniaid a ddefnyddir mewn Arabeg safonol, gan ddefnyddio'r Gwyddor Seinegol Ryngwladol

Cytseiniad Arabeg Safonol Modern
Gwefusol Deintiol Llafnol-Deintiol Ôl-orfannol/
Taflodol
Felar Tafodigol Argegol Glotol
di-bwyslais pwysleisiol
Trwynol m n
Ffrwydrol Di-lais k q ʔ
Lleisiol b d͡ʒ
Ffrithiol Di-lais f θ ʃ x ~ χ ħ
Lleisiol ð ðˤ ɣ ~ ʁ ʕ ɦ
Rhotig r
Dynesol l (ɫ) j w

Gramadeg

golygu

Trefn arferol y frawddeg Arabeg yw VSO (Berf - Goddrych - Gwrthrych), fel yn y Gymraeg.

Mae llawer o eiriau Arabeg a ieithoedd semitaidd eraill wedi eu ffurfio ar sail gwreiddyn semitaidd, tair cytsain fel arfer. Gall un gwraidd greu nifer fawr o eiriau cysylltiedig, er enghraifft gyda'r gwraidd k - t - b:

  • كَتَبْتُ katabtu 'Ysgrifenais'
  • كَتَّبْتُ kattabtu 'Gofynais i rywbeth gael ei ysgrifennu'
  • كَاتَبْتُ kātabtu 'Bûm yn llythyru'
  • أَكْتَبْتُ 'aktabtu 'Copïais'
  • اِكْتَتَبْتُ iktatabtu 'Tanysgrifiais'
  • تَكَاتَبْنَا takātabnā 'Buon ni'n llythyru â'n gilydd'
  • أَكْتُبُ 'aktubu 'Dw i'n ysgrifennu'
  • أُكَتِّبُ 'ukattibu 'Dw i'n gofyn i rywbeth gael ei ysgrifennu'
  • أُكَاتِبُ 'ukātibu 'Dw i'n llythyru'
  • أُكْتِبُ 'uktibu 'Dw i'n copïo'
  • أَكْتَتِبُ 'aktatibu 'Dw i'n tanysgrifio'
  • نَتَكَتِبُ natakātabu 'Dan ni'n llythyru â'n gilydd'
  • كُتِبَ kutiba 'Ysgrifennwyd'
  • أُكْتِبَ 'uktiba 'Copïwyd'
  • مَكْتُوبٌ maktūbun 'Ysgrifenedig'
  • مُكْتَبٌ muktabun 'Copïedig'
  • كِتَابٌ kitābun 'llyfr'
  • كُتُبٌ kutubun 'llyfrau'
  • كَاتِبٌ kātibun 'awdur'
  • كُتَّابٌ kuttābun 'awduron'
  • مَكْتَبٌ maktabun 'desg, swyddfa'
  • مَكْتَبَةٌ maktabatun 'llyfrgell, siop lyfrau'
  • ac ati.

Ieithoedd neu Dafodieithoedd

golygu
 
Gwahanol fathau o Arabeg yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol

Mae cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol fathau o Arabeg fod rhai ieithyddion yn eu hystyried yn ieithoedd ar wahân. Er hynny, o ran yr iaith ysgrifenedig, defnyddir Arabeg Modern Safonol yn gyffredinol, ac Arabeg y Corân trwy'r byd i gyd.

Grwpiau Tafodieithol

golygu

Ymadroddion Cyffredin

golygu

Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Ladin.

  • عربية : Arabiyya : Arabeg
  • ويلزي : wailzi : Cymraeg
  • لغة بلاد الغال : lwghat bilâd 'al-ghâl : Iaith Cymru
  • إنكليزي : 'inglizi : Saesneg
  • ! مرحبا : marHaban! : Helo!
  • ! لا بأس : la ba's! : Ddim yn ddrwg! ("la ba's?" yw'r ffordd arferol o ddweud "Helo!" neu "Shwmae!" yn anffurfiol. Atebir gyda "la ba's!".)
  • ! (عليكم)السلام : 'as-salam (Alaicwm)! : Heddwch (arnoch chi)!
  • ! وعليكم السلام : wa Alaicwm, 'as-salam! : Ac i chwithau, heddwch!
  • كيف الحال : caiff 'al-hâl? : Sut mae?
  • ! بخير، الحمد لله : bi-chair, 'al-Hamdw-li-lah! : Yn dda, diolch i Dduw!
  • ! صباح الخير : SabaH 'al-chair! : Bore/P'nawn da!
  • ! مساء الخير : masa' 'al-chair! : Noswaith dda!
  • ! أهلا وسهلا : 'ahlân wa-sahlân! : Croeso!
  • ! تصبح على خير : tySbiH Alâ chair! : Nos da!
  • ! ليلة سعيدة : laila sAida! : Nos da!
  • ! مع السلامة : mA-s-salama! : Da boch chi!
  • ! إلى اللقاء : 'ilâ-l-iga'! : Hwyl fawr!
  • ! سلام : salam! : Heddwch! ( "salam!" yw'r ffordd arferol o ddweud "Hwyl (fawr)!". Gellir defnyddio "salam!" i ddweud "Helo!" hefyd.
  • ! عفوا : Affwân! : Esgusodwch fi! / Da chi!
  • ! من فضلك : min ffaDlac! : Os gwelwch chi'n dda!
  • ! (جزيلا) شكرا : shwcran (jazîlan)! : Diolch (yn fawr)!
  • ! لا، شكرا : la' shwcran : Dim diolch
  • ! آسف : 'asiff! : mae'n flin gen i!
  • نعم : nAm : ïe / do / oes, etc.
  • : la' : nage / naddo / nag oes, etc.
  • ! بصحتك : bi-SiHat-ac! : Iechyd da!
  • ! الحمد لله : 'al-Hamdw-li-lah! : Diolch i Dduw!
  • ! إن شاء الله : 'in sha'-l-lah! : Os bydd Duw yn gytun! / Yn obeithiol!

Cyfeiriadau

golygu
  1. Nationalencyklopedin: "Världens 100 största språk 2010" - 100 o'r Ieithoedd Mwyaf y Byd yn 2010
  2. "World Arabic Language Day". UNESCO. 18 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 12 Chwefror 2014.
  3. "Arabic language." Encyclopædia Britannica. 2009. Encyclopædia Britannica Online. Adalwyd 29 Gorffennaf 2009.
 
Wikipedia
Argraffiad Arabeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Chwiliwch am Arabeg
yn Wiciadur.