Athro
Ym myd addysg, mae athro neu athrawes yn berson sy'n addysgu eraill. Gelwir athro sy'n addysgu unigolyn yn diwtor personol. Yn aml, mae rôl athro yn ffurfiol a pharhaus, a chaiff ei wneud fel swydd neu broffesiwn mewn ysgol neu leoliad addysgol ffurfiol arall.
Mewn nifer o wledydd, rhaid i berson sy'n dymuno gweithio fel athro yn un o ysgolion y wladwriaeth feddu ar gymwysterau proffesiynol a allai gynnwys addysgeg, sef y gwyddoniaeth o addysgu. Gall athrawon ddefnyddio cynllun gwers er mwyn cynorthwyo dysgu'r disgybl, gan ddarparu cwrs astudio sy'n ymdrin â'r cwricwlwm safonedig. Amrywia rôl yr athro mewn gwahanol ddiwylliannau. Addysga athrawon lythrennedd a rhifedd, neu rhai o bynciau eraill yr ysgol. Gall athrawon eraill ddarparu cyfarwyddyd mewn crefft benodol neu hyfforddiant galwedigaethol, y Celfyddydau, crefydd, dinasyddiaeth, dyletswyddau cymdeithasol neu sgiliau bywyd. Mewn rhai gwledydd, gellir darparu addysg ffurfiol yn y cartref.
Yng Nghymru, defnyddir y term 'athro' (neu 'athro prifysgol') i gyfeirio at brif ddarlithydd mewn prifysgol neu uwch-academydd sy'n gyfrifol am adran benodol.