Bae Ceredigion
Bae yn Sianel San Siôr yng ngorllewin Cymru yw Bae Ceredigion. Mae'r siroedd Gwynedd, Ceredigion a gogledd Sir Benfro yn ffinio â Bae Ceredigion. Gorwedd Penrhyn Llŷn i'r gogledd. Ceir tir amaeth da ar lannau'r bae.
Math | bae |
---|---|
Enwyd ar ôl | Teyrnas Ceredigion |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Iwerddon |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Aberystwyth |
Cyfesurynnau | 52.5°N 4.42°W |
Natur a daearyddiaeth
golyguNodweddir arfordir y bae gan nifer o draethau braf gyda thywod gwyn. Mae bywyd gwyllt yr ardal yn unigryw ac yn cynnwys poblogaeth bwysig o ddolffinau a nifer o adar môr.
Trefi
golyguAfonydd
golyguMae sawl afon yn llifo i'r bae. Y pwysicaf yw:
- Afon Teifi
- Afon Rheidol, yn Aberystwyth
- Afon Ystwyth, yn Aberystwyth
- Afon Dyfi
- Afon Aeron
- Afon Mawddach
- Afon Glaslyn
- Afon Erch
Ynysoedd
golyguEr nad oes llawer o ynysoedd yn y bae mae'n cynnwys un o ynysoedd pwysicaf Ynys Enlli, ynghyd ag Ynysoedd Tudwal yn y gogledd ac Ynys Aberteifi ac Ynys Lochdyn yn y de.
Hanes a thradodiadau
golyguHyd at yr 20g roedd trefi a phorthladdoedd Bae Ceredigion yn gartref i ddiwydiant morol pur sylweddol. Hwyliai llongau o Borthmadog dros Gefnfor Iwerydd ac i Ewrop, a bu Aberteifi yn bwysicach na Chaerdydd fel porthladd ar un adeg.
Yn llên gwerin Cymru, cysylltir y bae â sawl chwedl. Y fwyaf adnabyddus yn ddiau yw chwedl Cantre'r Gwaelod, y cantref a foddiwyd gan y môr ar noson stormus diolch i esgeulusdod Seithenyn. Ceir yn ogystal sawl traddodiad am fôr-forwynion, yn arbennig yng Ngheredigion.