Beto O'Rourke
Mae Robert Francis "Beto" O'Rourke (ganed 26 Medi 1972) yn wleidydd Americanaidd a wasanaethodd ardal gyngresol 16eg Texas am dri thymor yn Nhŷ Cynrychiolwr yr Unol Daleithiau. Dewiswyd O'Rourke i gynrychioli'r blaid Ddemocrataidd fel enwebiad i'r etholiad seneddol yn Texas yn 2018, a collodd o drwch blewyn i Ted Cruz, cynrychiolydd y Gweriniaethwyr .[1]
Beto O'Rourke | |
---|---|
Ganwyd | Robert Francis O'Rourke 26 Medi 1972 El Paso |
Man preswyl | Sunset Heights |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, gweithredwr mewn busnes, cerddor, person busnes, llenor |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Pat O'Rourke |
Mam | Melissa O'Rourke |
Priod | Amy O'Rourke |
Gwefan | https://betoorourke.com/ |
llofnod | |
Ganed O'Rourke i deulu gwleidyddol lleol yn El Paso, Texas, agraddiodd yn Woodberry Forest School a Phrifysgol Columbia. Tra'n astudio yn Columbia, cychwynnodd O'Rourke yrfa fer mewn cerddoriaeth, fel gitarydd bas yn y band 'Foss'. Ar ôl iddo raddio yn y coleg, dychwelodd i El Paso a dechrau gyrfa mewn busnes. Yn 2005, cafodd ei ethol i Gyngor Dinas El Paso, gan wasanaethu tan 2011. Etholwyd O'Rourke i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn 2012 ar ôl trechu'r Democrat Silvestre Reyes a oedd wedi treulio wyth tymor yno.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Beto O'Rourke is like Obama". Cyrchwyd January 11, 2019.
- ↑ "Beto O'Rourke (D-Texas)". Washington Post (yn Saesneg). 25 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 20 Hydref 2018.