Brian Merriman
Bardd yn yr iaith Wyddeleg oedd Brian Merriman (?1749 - 27 Gorffennaf 1805). Dywedir iddo gael ei eni ger Inis Díomáin (Ennistymon) yn Swydd Clare, Iwerddon, yn fab perth a llwyn i fonheddwr lleol.
Brian Merriman | |
---|---|
Ganwyd | 1747 Swydd Clare |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1805 Limerick |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd |
Gweithiai fel athro mewn ysgol wledig anffurfiol am flynyddoedd lawer a ffermiai ei dyddyn ei hun yn Fiacail (Feakle) yn ei sir enedigol cyn symud i ddinas Luimnigh (Limerick). Bu farw yno yn 1803.
Dim ond tair o'u cerddi sydd wedi goroesi ond mae'r fwyaf ohonyn nhw, Cúirt an Mheán Oíche ('Y Llys Hanner Nos'), yn haeddianol enwog yn hanes llenyddiaeth Wyddeleg. Cerdd o ddoniolwch gosgeiddig ar lefel Gargantiwaidd sy'n dwyn perthynas â thraddodiadau llenyddol cynharach, yn arbennig y canu serch bwrlesg Gwyddeleg, yw'r Cúirt. Fe'i lleolir ym myd hud a lledrith Celtaidd llys o ferched y Sídh (Tylwyth Teg) arallfydol dan arlywyddiaeth y frenhines Aoíbheall.
Llyfryddiaeth
golyguCeir detholiad o'r Cúirt (testun Gwyddeleg a chyfieithiad Saesneg cyfochrog) yn:
- Seán Ó Tuama a Thomas Kinsella (gol.), An Duanaire 1600-1900: Poems of the Dispossessed (Gwasg Dolmen, Portlaoise, 1981; argraffiad newydd 1990).