Carrog
- Gweler hefyd Carrog (gwahaniaethu)
Pentref bychan yn ne Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Carrog( Ynganiad ). Gorwedd ar lan Afon Dyfrdwy tua 2 filtir i'r dwyrain o Gorwen, ar y ffordd i gyfeiriad Llangollen (cyfeiriad grid SJ114437). Mae Carrog 104 milltir (167.3 km) o Gaerdydd a 169.3 milltir (272.4 km) o Lundain. Cyfeirwyd at y pentref fel Llansantffraid-Glyn Dyfrdwy hyd troad yr 20g, gan y safai o fewn plwyf hynafol Llansantffraid Glyndyfrdwy.[1] Daw ei henw cyfoes o Orsaf Reilffordd Carrog yr ochr arall i'r afon Dyfrdwy, ac enwyd hwnnw yn ei dro ar ôl ystad Carrog gerllaw.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9834°N 3.3356°W |
Cod OS | SJ104437 |
Gwleidyddiaeth | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[2][3]
Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd ar y B543 ar lan ogleddol Afon Dyfrdwy. Mae Pont Carrog yn croesi'r afon yma i gysylltu'r pentref â ffordd yr A5 yr ochr draw. Llifa Afon Morynion (Afon Morwynion) trwy'r pentref i ymuno yn Afon Dyfrdwy. Mae Gorsaf reilffordd Carrog yn ffurfio rhan o Reilffordd Llangollen erbyn hyn.
Yn y bryniau tua milltir i'r gorllewin, ceir safle hen fryngaer Caer Drewyn.
Mae ysgol gynradd gymunedol Ysgol Carrog dros 100 mlwydd oed.
Gefeilldref
golyguPobl o Garrog
golygu- Iorwerth Goes Hir, bardd, llenor a gwleidydd
- Gwion Lynch, bardd, llenor a gwleidydd
- Peredur Lynch, llenor ac athro Cymreig
- Fiona Collins, Awdur llên gwerin, enillydd Dysgwr y Flwyddyn, 2019
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Take the Carrog Village Trail. Adalwyd ar 8 Awst 2011.
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ CARROG - PLOUYÉ TWINNING VISIT. Y Bont (Medi 2005).
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion