Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Mae Ceuta yn diriogaeth Sbaenaidd 19 km², sy'n rhan o ranbarth Andalucía yn Sbaen, ar arfordir Gogledd Affrica. Mae'n wynebu'r Môr Canoldir i'r gogledd ac yn ffinio â Moroco (rhanbarth Tanger-Tétouan) yn y de. Mae gan Ceuta, ynghyd â'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi (Arabeg Sebta o'r Lladin Septem), boblogaeth o 70,000.

Ceuta
Mathdinas ymreolaethol Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasCeuta Edit this on Wikidata
Poblogaeth83,039 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2, Africa/Ceuta Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Guadalajara, Cádiz, Melilla, Algeciras, Aci Catena, Belvedere Marittimo Edit this on Wikidata
NawddsantDaniele Fasanella Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolExtrapeninsular Spain Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd18.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBelyounech, Tangier-Tetouan-Al Hoceima Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.88667°N 5.3°W Edit this on Wikidata
Cod post51000–51999 Edit this on Wikidata
ES-CE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholAssembly of Ceuta Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganPunic people Edit this on Wikidata
Lleoliad Ceuta

Yn ôl traddodiad, ymwelodd Ercwlff (Heracles) ac Odysseus (Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y Rhufeiniaid. Fe'i rheolwyd gan yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ôl hynny ac yna yn 931 fe'i meddianwyd gan reolwyr Umayyad newydd Andalucía. Roedd y bardd Ibn Sahl o Sevilla yn Ceuta rhwng 1248 a 1250 yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd Siâms I o Aragon y ddinas yn 1309 ac yn 1415 fe'i cipwyd gan Portiwgal. Rhwng 1580 a 1640 roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.

Treuliodd y marchog Almaenig Jörg von Ehingen tua saith mis yn Ceuta yn 1455-1456 pan fu'r dref gaerog dan warchae gan y Morociaid.