Conwy (sir)
Bwrdeistref sirol yng ngogledd Cymru yw Conwy. Mae'n cynnwys rhan o'r hen sir Gwynedd (Sir Gaernarfon cyn hynny) i'r gorllewin o afon Conwy, a rhan o'r hen sir Clwyd (yr hen Sir Ddinbych cyn hynny) i'r dwyrain o'r afon honno. Lleolir pencadlys y sir ym Modlondeb, Conwy, ac mae'n cael ei gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae ganni boblogaeth o 109,596 yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001.[1]
Math | prif ardal |
---|---|
Prifddinas | Conwy |
Poblogaeth | 117,181 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,125.835 km² |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Yn ffinio gyda | Sir Ddinbych, Gwynedd |
Cyfesurynnau | 53.1406°N 3.7706°W |
Cod SYG | W06000003 |
GB-CWY | |
- Am y dref o'r un enw, gweler Conwy (tref). Gweler hefyd Conwy (gwahaniaethu).
Hanes
golyguEr bod Bwrdeistref Sirol Conwy yn greadigaeth gymharol ddiweddar, mae gan yr ardal a gynhwysir ynddi hanes hir a chyfoethog. Yn y cyfnodau cynhanesyddol, cynhyrchid bwyeill carreg yn y Graiglwyd ar lethrau mynydd Penmaenmawr. Cawsant eu hallforio i rannau mor bell â de Prydain. Ar lethrau Pen y Gogarth roedd mwynglawdd copr gyda'r mwyaf yn Ewrop gyfan. Codwyd sawl adeiladwaith yn cynnwys cylch cerrig y Meini Hirion, Penmaenmawr.
Yng nghyfnod y Celtiaid, bu'r rhan fwyaf o'r ardal yn rhan o diriogaeth yr Ordovices ond mae'n bosibl fod tiriogaeth y Deceangli yn ymestyn hyd at lan ddwyreiniol afon Conwy. Daeth yr ardal dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig yn y ganrif 1af OC. Sefydlwyd caer ganddynt ger pentref Caerhun i reoli croesfan strategol ar afon Conwy. Roedd gan y brodorion sawl bryngaer yn cynnwys Braich-y-Dinas a Pen-y-gaer.
Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol roedd yr ardal yn rhan o Deyrnas Gwynedd. Gorweddai'r tir i'r gorllewin o afon Conwy, yn fras, yn rhanbarth Gwynedd Uwch Conwy; roedd hyn yn cynnwys cymydau Arllechwedd Uchaf, Arllechwedd Isaf a Nant Conwy, yng nghantref Arllechwedd. I'r dwyrain o'r afon ceid cantref Rhos (Uwch Dulas ac Is Dulas) a gorllewin cantref Rhufoniog, sef Uwch Aled. Eithriad hanesyddol i'r drefn oedd y Creuddyn, sef yr ardal sy'n cynnwys Llandudno a'r cylch heddiw, a orweddai yng Ngwynedd Uwch Conwy. Bu Rhos a Rhufoniog yn deyrnasoedd annibynnol am gyfnod byr yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Bu gan y Brenin Maelgwn Gwynedd gaer a llys ar safle Castell Degannwy ac fe'i cysylltir hefyd ag eglwys Llanrhos gerllaw. Daeth y castell yn un o gadarnleoedd brenhinoedd Gwynedd a newidiodd ddwylo sawl gwaith yn y brwydro rhwng Gwynedd a'r Normaniaid a'r Saeson. Roedd Abaty Aberconwy yn ganolfan bwysig; claddwyd Llywelyn Fawr ynddo.
Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282–83, aeth gorllewin y sir, yn cynnwys y Creuddyn, yn rhan o'r Sir Gaernarfon newydd. Roedd Rhos a Rhufoniog, ar y llaw arall, yn nwylo arglwyddi'r Mers hyd y 1540au pan ffurfiwyd Sir Ddinbych.
Pan adrefnwyd llywodraeth leol yn 1974, daeth y rhan o'r sir bresennol oedd yn yr hen Sir Ddinbych yn rhan o'r sir Clwyd newydd, ond aeth y gweddill, yn cynnwys y Creuddyn, yn rhan o sir Gwynedd (yr hen sir). Ad-drefnwyd llywodraeth leol unwaith eto yn 1996 a chrëwyd sir Conwy.
Daearyddiaeth
golyguMae'r prif drefi yn y sir yn cynnwys Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanrwst, Betws-y-Coed, Conwy, Bae Colwyn, Abergele, Penmaenmawr a Llanfairfechan ac mae ganddi boblogaeth o tua 110,000.
Gorwedd Afon Conwy (yr enwir y sir ar ei hôl) yn gyfan gwbl o fewn yr ardal gan redeg trwy ei chanol: mae'n llifo o'i tharddle yn Llyn Conwy ger Ysbyty Ifan i lawr drwy Ddyffryn Conwy i'r môr ger tref Conwy.
Mae'n sir amrywiol iawn o ran ei thirwedd. Gellid ei rhannu'n sawl ardal ddaearyddol: ardal y Creuddyn ac arfordir Rhos yn y gogledd, bryniau isel a chymoedd Rhos ei hun yn y dwyrain, Dyffryn Conwy a Nant Conwy yn y canol, arfordir Arllechwedd a mynyddoedd y Carneddau yn Eryri yn y gorllewin a phentref bychan Llangwm yn y de.
Gorwedd traean o ardal y sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac mae'r cyngor yn apwyntio 18 aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Y Gymraeg
golyguYn ôl Cyfrifiad 2001, mae 39.7% o'r boblogaeth yn medru "un neu ragor o sgiliau" yn y Gymraeg,[2] sy'n ei gwneud y 5ed allan o 22 awdurdod unedol Cymru o ran nifer y siaradwyr Cymraeg.[3]
Ond mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn amrywio'n fawr o ardal i ardal, gyda llai o lawer ar yr arfordir, o ganlyniad i'r Seisnigeiddio dybryd yno wrth i nifer o bobl wedi ymddeol symud i mewn, o Loegr yn bennaf.
Enghreifftiau o nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl lle:[2]
- Llandudno – 19.7%
- Bae Colwyn – 22.6%
- Conwy – 33%
- Trefriw – 50%
- Eglwysbach – 63%
- Dyffryn Conwy (rhan uchaf) – 66.8%
- Llangernyw – 69.3%
- Cerrigydrudion – 76%
Trefi a phrif bentrefi
golyguCymunedau
golyguCeir 34 cymuned yn y sir:
Prif hynafiaethau
golygu- Bryngaerau
- Cestyll
- Plasdai
Addysg
golyguAddysg uwch
golyguGwasanaethir yr ardal gan Goleg Llandrillo Cymru sydd â'i brif gampws ar safle yn Llandrillo-yn-Rhos.
Ysgolion uwchradd
golyguEnw'r ysgol | Lleoliad | Awdurdod addysg lleol | Math o ysgol |
---|---|---|---|
Ysgol Aberconwy | Conwy | Conwy | Cyfun, Saesneg |
Ysgol Bryn Eilian | Bae Colwyn | Conwy | Cyfun, Saesneg |
Ysgol Dyffryn Conwy | Llanrwst | Conwy | Cyfun, Dwyieithog |
Ysgol Emrys ap Iwan | Abergele | Conwy | Saesneg |
Ysgol John Bright | Llandudno | Conwy | Saesneg |
Ysgol Uwchradd Eirias | Bae Colwyn | Conwy | Cyfun, Saesneg |
Ysgol Y Creuddyn | Bae Penrhyn | Conwy | Cymraeg |
Oriel
golygu-
Llandudno o'r Gogarth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Census 2001 - Profiles - Conwy. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
- ↑ 2.0 2.1 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cyfrifiad 2001 yr iaith Gymraeg. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
- ↑ Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Census 2001 - Profiles - Conwy. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Archifwyd 2008-12-19 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan