Cybi
Sant o Gymro oedd Cybi Sant, nawddsant Caergybi ar Ynys Môn. Enwir penrhyn gogledd-orllewinol Môn Ynys Gybi ar ei ôl hefyd.
Cybi | |
---|---|
Ganwyd | 483 Cernyw, Penmon |
Bu farw | 8 Tachwedd 555 |
Man preswyl | Llangybi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Blodeuodd | 550 |
Dydd gŵyl | 8 Tachwedd |
Tad | Selyf ap Geraint |
Mam | Gwen ferch Cynyr |
- Erthygl am y sant yw hon. Am yr awdur Cymraeg gweler Robert Evans (Cybi).
Traddodiadau
golyguYsgrifennwyd buchedd yn yr iaith Ladin i Gybi yn Oes y Tywysogion, ond yn anffodus llwgr iawn yw'r testun. Mae'n adrodd sut y ganwyd Cybi yng Nghernyw yn fab i Selyf ap Geraint ab Erbin. Roedd ei hendaid yn un o arwyr y Tair Rhamant felly. Ceir nifer o draddodiadau am Gybi yng Nghernyw. Aeth drosodd i Gâl i astudio ac yna aeth dros y môr eto ond i Gymru y tro yma, gan genhadu yng Ngwent. Ymddengys ei fod wedi ymweld ag Ynysoedd Aran yng ngorllewin Iwerddon yn ogystal cyn dychwelyd i Gymru eto ac ymsefydlu ym Môn lle bu farw yn ei fynachlog yng Nghaergybi.
Mae hen chwedl yn cysylltu enw Maelgwn Gwynedd â Chybi a'i gyfoeswr Seiriol (sefydlydd Priordy Penmon ar Fôn). Rhoddodd Maelgwn dir i'r ddau i sefydlu eu mynachlogydd. Ystyrid eglwysi Penmon a Chaergybi ymhlith y pwysicaf yn y gogledd am ganrifoedd gyda nifer yn pererindota iddyn nhw.
Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones, arferai 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach yng nghanolbarth yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18g. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn!
Eglwysi
golyguMae Cybi yn nawddsant sawl eglwys yng Nghymru yn ogystal â Chaergybi ei hun: Llangybi, Eifionydd, Llangybi, Ceredigion, a Llangybi, Sir Fynwy. Yng Nghernyw mae'n nawddsant eglwysi Cubert, Cuby, Tregony a Duloe.
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llangybi, Eifionydd gan Sant Cybi. Mae'n adnabyddus am Ffynnon Gybi, tua 400 medr o'r eglwys, hen ganolfan bererindod leol ar un o'r llwybrau hynafol i Ynys Enlli. Ceir adfeilion hen gell feudwy yno. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am ragweld ffyddlondeb cariadon.
Cedwir ei ŵyl ar 5 Tachwedd (neu rhwng y 6ed a'r 8fed).
Ffynhonnell
golygu- A.D. Carr, 'Seiriol a Chybi' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).
- John Morris-Jones, Caniadau (Rhydychen, 1907).