Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Cyffuriau gwrthfiraol

math o feddyginiaeth

Mae cyffuriau gwrthfiraol yn ddosbarth o feddyginiaeth a ddefnyddir yn benodol ar gyfer trin heintiau firaol yn hytrach na rhai bacteriol.

Plentyn gyda Brech Ieir

Y Firws

golygu

Mae firysau yn organebau symlach a llai na bacteria ac yn llai abl i gynnal eu hunain. Mae firysau cynnwys genom ac weithiau ychydig o ensymau wedi eu storio mewn capsiwl o brotein (a elwir yn capsid), ac weithiau wedi eu gorchuddio â haen lipid (a elwir weithiau yn 'amlen'). Yr unig fodd i firysau cynnal eu hunain ac atgynhyrchu yw trwy dreiddio i mewn i gelloedd y corff a lluosi trwy i’r celloedd atgynhyrchu. Gan nad yw firysau yn cyflawni llawer o weithgareddau yn annibynnol i’r gell y maent wedi treiddio iddynt, mae wedi bod yn anodd datblygu meddyginiaethau sy’n atal neu’n amharu ar eu cylch bywyd heb niweidio’r celloedd hefyd.

Mae cylch bywyd firws yn amrywio o ran eu manylion union, gan ddibynnu ar y math o firws ydyw, ond maent i gyd yn rhannu patrwm cyffredinol:

  • Ymlyniad i gell letyol.
  • Rhyddhau genynnau firaol ac weithiau ensymau i mewn i'r gell letyol.
  • Atgynhyrchu’r cydrannau firaol gan ddefnyddio peirianwaith y gell letyol.
  • Adeiladu’r cydrannau firaol i mewn i ronynnau firaol cyflawn.
  • Rhyddhau'r gronynnau firaol i heintio celloedd lletyol newydd.

Defnydd

golygu

Mae'r rhan fwyaf o'r cyffuriau gwrthfiraol yn cael eu defnyddio ar gyfer heintiau firaol penodol, tra bod gwrthfeirysau sbectrwm eang yn effeithiol yn erbyn ystod eang o firysau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wrthfiotigau, nid yw cyffuriau gwrthfiraol yn dinistrio eu pathogen targed; yn lle hynny maent yn rhwystro eu datblygiad.[1]

Mae cyffuriau gwrthfiraol yn rhan o ddosbarth gwrth ficrobau, grŵp ehangach sydd hefyd yn cynnwys gwrthfiotig, cyffuriau gwrthffyngol a gwrth parasitig neu gyffuriau gwrthfiraol yn seiliedig ar wrthgyrff monoclonaidd[2]

Ystyrir y rhan fwyaf o gyffuriau gwrthfiraol yn gymharol ddiniwed i'r gwesteiwr, ac felly gellir eu defnyddio i drin heintiau. Dylid eu gwahaniaethu oddi wrth firws laddwyr (viricide), nad ydynt yn feddyginiaeth ond yn foddion i anactifadu neu ddinistrio gronynnau firws, naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r corff.

Mae nifer wahanol o firysau a heintiau firaol gyda symptomau gwahanol, a gwahanol raddau o ddifrifoldeb y salwch y maent yn achosi. Ym mysg yr anhwylderau firaol mwyaf cyffredin mae’r annwyd, y ffliw, doluriau annwyd ac afiechydon ieuenctid megis brech yr ieir, clwy’r pennau, a’r frech goch. Mae heintiau’r gwddf, niwmonia, broncitis, gastro-enteritis a llid yr ymennydd, yn aml, ond nid ar bob achlysur, yn cael eu hachosi gan firws. Fel arfer bydd amddiffynfeydd naturiol y corff yn aml yn aml yn ddigon cryf i oresgyn heintiau fel rhain. Cyffuriau i leddfu poen neu i leihau twymyn bydd yn cael eu rhoi i’w trin yn hytrach na chyffuriau gwrthfiraol. Efo heintiau mwy difrifol megis niwmonia a llid yr ymennydd mae angen goruchwyliaeth feddygol ddwysach.

Problem arall gyda heintiau firaol yw pa mor gyflym gall y firws lluosogi. Erbyn i’r symptomau ymddangos gall nifer y firysau bod mor niferus fel nad yw’r cyffuriau yn cael fawr o effaith. Gan hynny rhaid defnyddio cyffuriau megis aciclovir (sy’n cael ei ddefnyddio i drin y dolur annwyd) yn gynnar yng nghwrs yr haint. Gall cyffuriau gwrthfiraol eraill cael eu defnyddio i atal firysau.

Sut maent yn gweithio

golygu

Mae rhai cyffuriau gwrthfiraol yn gweithio drwy newid y blociau adeiladu deunydd genetig y celloedd fel nad oes modd i’r firws atgynhyrchu. Mae eraill yn blocio’r ensymau o fewn y celloedd letyol gan rwystro iddynt luosi. Mae rhwystro’r firws rhag lluosi yn ei atal rhag lledu i gelloedd iach, gan wella’r symptomau. Gyda rhai heintiau, megis herpes, dydy’r feddyginiaeth dim yn gwaredu’r firws o’r corff ac fe all yr haint dychwelyd drachefn.[3]

Brechlyn

golygu

Mae llawer o glefydau firysol cyffredin yn cael eu dal unwaith yn unig mewn oes unigolyn. Y rheswm am hyn yw bod y corff yn cynhyrchu gwrthgyrff i ymosod ar firysau o’u canfod yn y corff. Mae’r gwrthgyrff yn aros yn y corff yn barod i ymosod yn syth bin ar y firws os yw’n cael ei ddarganfod eto yn y dyfodol. Gellir amddiffyn rhag dal rhai heintiau trwy ddefnyddio brechlyn sydd yn dynwared yr haint go iawn ac yn gwneud i’r corff creu gwrthgyrff yn erbyn yr haint go iawn. Er bod y brechlynnau yn cael eu defnyddio i amddiffyn rhag heintiau firysol, nid ydynt yn gyffuriau gwrthfiraol.[4]

Gweler y brif erthygl Brechlyn

Cyffuriau gwrthfiraol mwyaf cyffredin

golygu

Y cyffuriau gwrthfiraol mwyaf cyffredin i’w defnyddio yn ynysoedd Prydain yw

Am restr lawn gweler Rhestr o gyffuriau gwrthfiraol

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Medmicro Chapter 52". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2000. Cyrchwyd 6 Awst 2017.
  2. Rick Daniels; Leslie H. Nicoll.Pharmacology - Nursing Managemen. Contemporary Medical-Surgical Nursing. Cengage Learning, 2011. tud. 397.
  3. BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
  4. Galw iechyd Cymru Sut mae brechiadau yn gweithio? Archifwyd 2017-11-11 yn y Peiriant Wayback

Rhybudd Cyngor Meddygol

golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!