Cynan ap Hywel
brenin (d. 1005)
Cynan ap Hywel (teyrnasodd 999 - 1005), oedd Brenin Gwynedd ac efallai Deheubarth.[1]
Cynan ap Hywel | |
---|---|
Ganwyd | 10 g |
Bu farw | 1005 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin |
Swydd | Teyrnas Gwynedd, Teyrnas Deheubarth |
Tad | Hywel ab Ieuaf |
Bywgraffiad
golyguAr ôl marwolaeth Maredudd ab Owain, oedd wedi cipio gorsedd Gwynedd oddi ar linach Idwal Foel, yn 999, dychwelwyd Gwynedd i ddwylo disgynyddion Idwal yn ffurf ei or-wyr Cynan ap Hywel. Teyrnasodd Cynan hyd 1005 ond ychydig iawn a gofnodir amdano. Mae'n ymddangos iddo hefyd lwyddo i gipio teyrnas Deheubarth. Nid oes gwybodaeth am y modd y collodd ei orsedd i Aeddan ap Blegywryd, nad oedd o linach Idwal Foel i bob golwg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).