Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Foel Gron

mynydd (629m) yng Ngwynedd

Mae Foel Gron yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, rhwng Foel Goch i'r de-ddwyrain a Moel Eilio i'r gogledd-orllewin. Mae Bwlch Cwm Cesig yn ei wahanu oddi wrth Moel Eilio, a Chwm Cesig ei hun ar ei ochr ddwyreniol yn arwain i lawr i Gwm Dwythwch. I'r de-orllewin mae llechweddau mwy graddol yn arwain i lawr at Llyn Cwellyn.

Foel Gron
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr629 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0889°N 4.1517°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH5604856850 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd30.7 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel Eilio Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau, ond fel rheol cyrhaeddir i'r copa wrth fynd ar hyd y grib i gyd. Mae modd cyrraedd Bwlch Maesgwm o Lwybr Llyn Cwellyn neu o Lanberis ar draws Cwm Brwynog, ac yna dringo i'r copa dros Foel Goch.