Hagia Sophia
Adeiladwyd Hagia Sophia (Groeg: Άγια Σοφία, Twrceg Ayasofya), fel eglwys rhwng 532 a 537 yng Nghaergystennin, yn awr Istanbwl, Twrci. Ystyr yr enw yw "(Eglwys y) Doethineb Sanctaidd".
Enghraifft o'r canlynol | atyniad twristaidd, mosg, amgueddfa |
---|---|
Daeth i ben | 404, 14 Ionawr 532 |
Label brodorol | Αγία Σοφία |
Crefydd | Eglwysi uniongred, islam |
Rhan o | Ardaloedd Hanesyddol Istanbul |
Dechrau/Sefydlu | 23 Chwefror 532 |
Lleoliad | Sultanahmet |
Sylfaenydd | Cystennin I |
Enw brodorol | Αγία Σοφία |
Rhanbarth | Fatih, Istanbul |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i hadeiladwyd yn ystod teyrnasiad Justinian fel ymerawdwr yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac ystyrir yr adeilad fel un o gampweithiau pensaernïaeth Fysantaidd. Y penseiri oedd dau Roegwr, Antemios o Tralles ac Isidoros o Miletus. Defnyddiwyd yr adeilad fel eglwys am 916 mlynedd, hyd nes i'r Ymerodraeth Ottomanaidd gipio Caergystennin yn 1453. O hynny hyd 1935 bu'n gweithredu fel mosg, ond yn y flwyddyn honno cafodd yr adeilad ei droi yn amgueddfa.