Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Wrth ystyried hanes De Affrica ceir nifer o safbwyntiau gwahanol gan ysgolheigion a brodorion gan fod De Affrica yn wlad amlddiwylliannol. (Gweler demograffeg De Affrica a diwylliant De Affrica.)

De Affrica hynafol

golygu

Dangosir tystiolaeth archaeolegol roedd yr ardal sydd heddiw yn Dde Affrica yn gartref i un o grudiau esblygiad dynol. Darganfuwyd rhai o'r olion dynol hynaf, sy'n dyddio dros 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y wlad. Darganfuwyd olion australopithecus africanus yn Taung, Sterkfontein, Swartkrans, a Kromdraai, ac olion australopithecus robustus, sy'n dyddio yn ôl tua 3 miliwn o flynyddoedd, ym Makapansgat. Bu homo habilis, yr offerwr cyntaf, yn byw yn Ne Affrica rhyw 2.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac ymddangosodd homo sapiens yn gyntaf rhwng 125 000 a 50 000 o flynyddoedd yn ôl.

Cyfaneddwyr cyntaf

golygu

Trigolion cyntaf De Affrica oedd y pobloedd Khoisan, helwyr-gasglwyr y San a bugeiliaid y Khoikhoi. Credir i'r bobl Bantu, hynafiaid y mwyafrif o dduon y Dde Affrica fodern, cyrraed tua 100 OC, yn dod â dulliau byw a thechnoleg Oes yr Haearn gynnar i'r rhanbarth gydan nhw. O ganlyniad cafodd y grwpiau ethnig gwreiddiol eu cymhathu neu eu gwthio i ardaloedd ffiniol; heddiw mae eu disgynyddion yn byw yn niffeithdir y Kalahari ym Motswana (San) a de Namibia (Khoikhoi).

Prydeinwyr cynnar

golygu

Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da dwywaith, yn 1795 a 1806. Yn 1814, tua diwedd oes yr ymladd yn Ewrop, prynodd y DU Trefedigaeth Penrhyn o'r Iseldirwyr am £6 miliwn. Ar ôl 1820 ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica, a mynnon nhw bod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad. Daeth Saesneg yn y iaith swyddogol yn 1822, rhoddwyd amddiffyniad i'r Khoikhoi, a diddymwyd caethwasiaeth yn 1833.

Gweriniaethau'r Boeriaid

golygu

Teimladau chwerw oedd gan y Boeriaid o ganlyniad i'r mesurau hyn, ac arweiniodd hyn at y Daith Fawr, pan fudodd rhyw 10 000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838. Mudodd y voortrekkers (rhagredegyddion) yma tua'r dwyrain a'r gogledd, a chyfaneddasant o amgylch yr Afon Orange, yr Afon Vaal, ac yn Natal. Yn dilyn ymosodiadau milwrol yn 1836 gyrron nhw lwyth y Ndebele tu hwnt i'r Afon Limpopo ac yn 1838 trechon nhw'r Zulu ym Mrwydr Afon Bloed cyn sefydlu cyfres o aneddiadau yn y rhanbarth. Meddiannodd y Prydeinwyr, a oedd yn dymuno cadw rheolaeth dros y voortrekkers, ranbarth arfordirol Natal a sefydlwyd Trefedigaeth y Goron yno yn 1843.

Gadawodd y mwyafrif o Foeriaid Natal ac aethant i'r gogledd a'r gorllewin, lle sefydlon nhw weriniaethau'r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal. Llechfeddiannodd y Prydeinwyr diroedd y Xhosa ar hyd oror dwyreiniol y Penrhyn mewn cyfres o ryfeloedd gwaedlyd. Enillodd llywodraethwr Trefedigaeth y Penrhyn, Syr Harry Smith, reolaeth dros diriogaeth yr Afon Orange yn 1848. Ond gwadwyd ei bolisïau imperialaidd gan lywodraeth Brydeinig a oedd yn awyddus i gwtogi ei hymrwymiad yn Ne Affrica. Cydnabu Prydain annibyniaeth Boeriaid y Transvaal yng Nghytundeb Afon Sand yn 1852, ac annibyniaeth y Wladwriaeth Rydd Oren yng Nghytundeb Bloemfontein yn 1854.

Erbyn diwedd y 1850au cyfunwyd tiriogaethau Boeriaid y Transvaal tu hwnt i'r Afon Vaal yn swyddogol fel De Affrica, neu Weriniaeth Transvaal. Er ymgeisio'n ofer i uno'r weriniaeth a'r Wladwriaeth Rydd Oren, cadwodd y ddwy weriniaeth Foer gysylltiadau agos yn y blynyddoedd wedi hynny.

Rhyfeloedd y Boer

golygu

Y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd

golygu

Yr Ail Ryfel Byd

golygu

Apatheid

golygu
Prif: Apartheid

System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd"). Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dŵf wedi 1948. Dechreuwyd cael gwared o'r system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddau gydag etholiad cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica gyda phawb yn cael pleidlais.

1994–presennol

golygu
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Y Daith Fawr, Afon Bloed o'r Saesneg a'r Affricanneg "the Great Trek, Bloedrivier". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.