Heraclitos
Athronydd Groeg oedd Heraclitos (Groeg: Ἡράκλειτος ὁ Ἐφέσιος, Heraklit neu Heraclitus mewn rhai ieithoedd) (fl. 500 CC). Cafodd ei eni yn Effesus, Asia Leiaf, yn fab i bendefig lleol. Fe'i ystyrir weithiau'n Dad Metaffiseg.
Heraclitos | |
---|---|
Ganwyd | c. 535 CC Effesus |
Bu farw | c. 470s CC o edema Effesus |
Man preswyl | Effesus |
Dinasyddiaeth | Effesus, Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
Galwedigaeth | athronydd, llenor, ffisegydd |
Prif ddylanwad | Hippasus, Xenophanes |
Mudiad | athroniaeth cyn-Socratig, athroniaeth hynafol, athroniaeth y Gorllewin, Ionian School |
Ysgrifennodd lyfr, Ynglŷn â Natur, ond dim ond darnau sydd wedi goroesi. Ei gysyniad enwocaf oedd fod pob dim mewn cyflwr cyfnewidiol ac mae Newid ei hun yw'r unig beth sy ddim yn newid: 'Ni ellwch roi eich troed yn yr un afon ddwywaith'. Mae popeth yn y bydysawd yn rhwym wrth y ddeddf sylfaenol hon, gan gynnwys y duwiau eu hunain.
Mae undod ymddangosiadol y bydysawd yn cuddio tensiwn deinamig rhwng grymusterau gwrthwynebol a reolir, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, gan y 'Logos' ('Rheswm'). Prif fynegiant corfforol y 'Logos' yw Tân, sail y Greadigaeth i gyd. Tân (sef y 'Logos') yw'r enaid hefyd, sydd yr un y bôn â'r elfen sy'n creu, cynnal a dinistrio'r bydysawd oll. Credai y byddai eneidiau da yn ymuno â'r 'Logos' ar ôl marwolaeth y corff.
Tywyll iawn ac agored i sawl darlleniad yw ei ddywediadau. Mae Diogenes Laertius yn ei lyfr Bucheddau'r Athronwyr yn cofnodi stori am y dramodydd Groeg Ewripedes yn rhoi copi o lyfr Heraclitus i Socrates. Gofynnodd iddo wedyn beth oedd yn meddwl ohono. Atebodd, "Mae'r hyn a ddeallais yn wych; ac dwi'n meddwl fod yr hyn na ddeallais yn wych hefyd - ond buasai angen plymiwr o Ddelos i gyrraedd ei waelod!" (roedd pysgotwyr perlau ynys Delos yn enwog am eu gallu i blymio'n ddyfnach na neb arall i'r môr).
Llyfryddiaeth
golygu- Jonathan Barnes (gol.), Early Greek Philosophy (Penguin, 1987), pennod 8: Heraclitus.