Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Jane Hutt

gwleidydd Cymreig ac AC

Gwleidydd Seisnig yw Jane Hutt (ganwyd 15 Rhagfyr 1949). Mae'n aelod o'r Blaid Lafur ac yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Bro Morgannwg ers 1999.

Jane Hutt
AS
Llun swyddogol, 2024
Prif Chwip y Llywodraeth
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganJulie James
Yn ei swydd
19 Mai 2016 – 3 Tachwedd 2017
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganJanice Gregory
Dilynwyd ganJulie James
Gweinidog dros Addysg a Sgiliau
Yn ei swydd
19 Gorffennaf 2007 – 10 Rhagfyr 2009
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Dilynwyd ganLeighton Andrews
Aelod o Senedd Cymru
dros Fro Morgannwg
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 1999
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Manylion personol
Ganwyd (1949-12-15) 15 Rhagfyr 1949 (75 oed)
Epsom, Lloegr
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
PriodMichael Trickey
Plant2 ferch
Alma materPrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol Bryste
SwyddCynghorydd, undebwr llafur
GwefanGwefan Swyddogol

Ganwyd Hutt yn Epsom, Lloegr; daeth ei nain a'i thaid, a oedd yn Gymry Cymraeg rhugl, o Gymru. Mae Jane hithau'n mynychu gwersi Cymraeg (2018).[1] Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, a Phrifysgol Bryste.

Daeth yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ei hethol i Gynulliad Cymru a daliodd y swydd tan Ionawr 2005 er gwaethaf tipyn o feirniadaeth. Wedyn symudwyd hi i fod yn Drefnydd Busnes y Cynulliad ac yna daeth yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ers i Carwyn Jones ddod yn Brifweinidog yn 2009, hi oedd Gweinidog dros Gyllid a Busnes. Yna daeth yn Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip.

Fideo (Saesneg) o Hutt yn Awst 2020

Ar 3 Tachwedd 2017, gadawodd Lywodraeth Cymru wedi gwasanaethu yn y cabinet am 18 mlynedd.[2] Dychwelodd i'r cabinet yn Rhagfyr 2018 fel Dirprwy Weinidog a Prif Chwip o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford.[3]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg
1999 – presennol
Olynydd:
deiliad


Cyfeiriadau

golygu
  1. janehutt.wales; Archifwyd 2020-09-28 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Rhagfyr 2018.
  2. Sargeant a Hutt allan o gabinet Llywodraeth Cymru , 3 Tachwedd 2017.
  3.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Llywodraeth Cymru (13 Rhagfyr 2018).