Lloeren
Mae lloeren yn wrthrych, naturiol neu wedi'i greu gan ddyn, sy'n symud oddi amgylch gwrthrych mwy, gan amlaf yn y gofod, trwy rym disgyrchiant. Y Lleuad yw lloeren naturiol y Ddaear. Mae gan sawl blaned loeren neu loerennau; Iau yw'r blaned gyda'r mwyaf ohonynt.
Math | satellite, llong ofod |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1957 |
Rhan o | spacecraft constellation |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall lloeren fod yn wrthrych o waith llaw dyn yn ogystal, fel arfer yn beiriant sy'n cylchdroi o gwmpas y ddaear, er enghraifft lloeren teledu.
Lloerenni geosefydlog
golyguMae rhai lloerenni artiffisial mewn cylched geosefydlog, sydd yn golygu fod y lloeren yn cylchdroi ar yr un cyflymder a mae'r ddaear yn troi. Mae'r lleoliad yma 42,164 km (26,199 milltir) o wyneb y ddaear. Felly o'r ddaear maent yn ymddangos yn yr un lle yn yr awyr o hyd. Mae neges yn gallu cael ei yrru rhwng dau bwynt ar y ddaear drwy'r lloeren. Un anfantais o hyn yw'r oedi oherwydd fod y signal yn gorfod teithio i fyny a lawr o'r lloeren, sydd yn cymeryd tua 0.25 eiliad. Gall hyn gynyddu wrth drosglwyddo'r signal drwy nifer o loerennau.