Llyn Malawi
Llyn yn ne-ddwyrain Affrica yw Llyn Malawi (weithiau Llyn Nyasa). Ef yw'r trydydd llyn yn Affrica, a'r nawfed yn y byd, o ran arwynebedd, a'r ail ddyfnaf yn Affrica. Saif rhwng Malawi, Mosambic a Thansanïa.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lake Malawi National Park, Llynnoedd Mawr Affrica, Rift Valley lakes |
Gwlad | Malawi, Mosambic, Tansanïa |
Arwynebedd | 29,600 km² |
Uwch y môr | 474 metr |
Yn ffinio gyda | Chintheche |
Cyfesurynnau | 12.1833°S 34.3667°E |
Dalgylch | 6,593 cilometr sgwâr |
Hyd | 570 cilometr |
Llyn hir a chul yw Malawi; rhwng 560 a 579 km o hyd a 75 km o led yn ei fan lletaf. Yn ei fan dyfnaf, mae'n cyrraedd dyfnder o 709 medr. Ceir mwy o rywogaethau o bysgod yn y llyn yma nag yn unrhyw lyn arall yn y byd. Ceir dwy ynys a phoblogaeth arnynt yn y llyn, Likoma a Chizumulu, y ddwy yn perthyn i Malawi.
Y brif afon sy'n llifo i mewn iddo yw afon Ruhuhu, ac mae afon Shire yn llifo allan, i ymuno ag afon Zambezi. Enwyd ef yn Lyn Nyasa gan David Livingstone, yr Ewropead cyntaf i gyrraedd y llyn, yn 1859. Ym Malawi gelwir ef yn Llyn Malawi, ond mae Tansanïa yn defnyddio "Llyn Nyasa". Mae rhywfaint o anghytunbeb rhwng Malawi a Thansanïa am union leoliad y ffîn rhwng y ddwy wlad ar draws y llyn.