Mabelfyw
Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Mabelfyw. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.
Gorweddai cwmwd Mabelfyw yn rhan ogleddol y Cantref Mawr, ar y ffin rhwng y cantref hwnnw â theyrnas Ceredigion. Ffiniai â chymydau Mabudrud, Catheiniog a Chaeo yn y Cantref Mawr, ac â chantrefi Gwynionydd a Mebwynion yng Ngheredigion, i'r gogledd.
Gorweddai ar lannau Afon Teifi.