Nefyn
Tref fechan a chymuned ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, Gwynedd yw Nefyn, sydd â phoblogaeth o tua 2,500. Filltir i lawr y ffordd i'r gorllewin mae Morfa Nefyn a Phorthdinllaen, ar lan Bae Caernarfon. I'r dwyrain o Nefyn i gyfeiriad Gaernarfon mae pentref Pistyll a bryniau Yr Eifl. Yn ychwanegol at Nefyn ei hun, mae cymuned Nefyn hefyd yn cynnwys pentrefi Morfa Nefyn ac Edern.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,509 |
Gefeilldref/i | Porth Madryn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.935°N 4.525°W |
Cod SYG | W04000092 |
Cod OS | SH304405 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Er bod Nefyn yn boblogaidd gydag ymwelwyr oherwydd bod yma draeth tywodlyd, mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda bron i 95% o'r trigolion yn ei medru. Mae'r ffordd A497 yn gorffen yng nghanol y dref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Hanes
golyguMae nifer o safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal, yn cynnwys bryngaer Garn Boduan o Oes yr Haearn. Yn Oes y Tywysogion Nefyn oedd safle llys cwmwd Dinllaen, oedd yn ei dro yn rhan o gantref Llŷn. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yn Nefyn yn 1094 i godi byddin; hwyliodd oddi yno i ymosod ar gastell Aberlleiniog ar lan Afon Menai. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r dref yn 1188, ac mae'n cofnodi'r hanes yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Treuliodd Gerallt a'i gydymaith Baldwin, Archesgob Caergaint noswyl Sul y Blodau yno ar ôl siwrnai hir o Ardudwy. Pregethodd Baldwin y Drydedd Groesgad a dywedir fod nifer wedi ymrwymo iddi. Cynhaliwyd twrnamaint yma gan Edward I yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros deyrnas Gwynedd. Roedd Nefyn yn dref farchnad bwysig ar y pryd. Yn 1355 fe'i gwnaed ym mwrdeistref Rydd.
Mae'r môr wedi bod yn fywoliaeth i drigolion Nefyn erioed. Roedd pysgota yn bwysig, yn enwedig pysgota penwaig, ac mae "penwaig Nefyn" yn ddiarhebol. Dangosir tri penogyn ar arfbais y dref. Yn 1635 roedd canran uchel o boblogaeth Nefyn o 60 o ddynion yn gweithio fel pysgotwyr, ac yn 1771 daliwyd penwaig gwerth £4,000. Yn 1910 roedd deugain cwch yn pysgota penwaig. Daeth y pysgota penwaig i ben adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn hyn nid yw'r penwaig yn niferus yn yr ardal.
Roedd Nefyn hefyd yn fagwrfa bwysig iawn i longwyr a chapteiniaid llongau yn oes y llongau hwylio, gyda chanran uchel iawn o fechgyn y dref yn mynd i'r môr. Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yma hefyd. Cofnodir adeiladu cryn nifer o longau rhwng 1760 a 1880, pan lansiwyd y llong olaf a adeiladwyd yna, y sgwner Venus.
Ychydig i'r de mae Castell Madryn, unwaith yn gartref Syr Love Jones-Parry oedd yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Ar ôl y Madryn yma yr enwyd Porth Madryn yn Ariannin, ac mae Nefyn yn efeilldref Porth Madryn.
20fed ganrif ymlaen
golyguAr 19 Gorffennaf 1984, Nefyn oedd canolbwynt daeargryn yn mesur 5.4 ar raddfa Richter. Hwn oedd y dirgryniad cryfaf a gofnodwyd ar dir mawr ynys Prydain ers i gofnodion ddechrau, ond ni chafwyd llawer o ddifrod.
Ar 19 Ebrill 2021, cafwyd tirlithriad gyda darn sylweddol o'r glogwyn yn cwympo i'r môr. Collwyd y tir o waelod tai haf ar Rhodfa'r Môr, ond ni anafwyd unrhyw unigolyn.[3]
Chwaraeon
golyguMae tîm pêl-droed yn Nefyn o'r enw Clwb Pêl-Droed Unedig Nefyn (Saesneg: Nefyn United Football Club). Mae yna dîm wedi bod yn Nefyn ers 1932, ac maent bellach yn chwarae ar Gae'r Delyn ar gyrion y dref. Maent yn chwarae gartref mewn cit lliwiau glas a gwyn, ac i ffwrdd mewn lliw coch. Mae aelodau'r tîm yn aml yn cael y llysenw 'Y Penwaig'.
Mae gan y tîm dudalen Facebook.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Enwogion
golygu- John Parry (Y Telynor Dall) (1710?-1782), telynor
- Syr Love Jones-Parry (1832-1891), arloeswr Y Wladfa
- Elizabeth Watkin Jones (1888-1965), awdures llyfrau plant
- Duffy (ganwyd 1984), cantores soul
-
Y pentref, tua 1885.
-
Golygfa o'r traeth, Nefyn, 2012
Gweler hefyd
golygu- Croeso i Ardal Aberdaron - Nefyn (2007), teithlyfr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ 'Tirlithriad mawr' yn Nefyn: Annog pobl i gadw draw , BBC Cymru Fyw, 19 Ebrill 2021.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dolenni allanol
golyguDinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr