Pethe Brau
Addasiad o ddrama Tennessee Williams, The Glass Menagerie wedi'i haddasu gan Emyr Edwards yw Pethe Brau. Cyhoeddwydd yr addasiad ym 1963 cyn i Wasg Gomer ei ail-gyhoeddi ym 1992. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1] Mae'r ddrama Saesneg wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg sawl gwaith gan gynnwys Y Werin Wydr o waith Annes Gruffydd.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Tennessee Williams |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780863838927 |
Dechrau/Sefydlu | 1944 |
Genre | Memory play |
Cymeriadau | Amanda Wingfield, Tom Wingfield, Laura Wingfield, Jim O'Connor |
Lleoliad y perff. 1af | Chicago |
Dyddiad y perff. 1af | 1944 |
Lleoliad y gwaith | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiad byr
golyguMae'r ddrama'n portreadu tyndra mewn teulu wrth i ddelfrydau a breuddwydion gael eu chwalu.
Cefndir
golygu"Drama hunangofiannol yw Pethe Brau. Mae hyn yn golygu fod ystyriaeth o gefndir y dramodydd yn hollbwysig. Ganwyd Tennessee Williams yn 1911 yn Mississippi, UDA. Roedd ei dad yn ddiotwr yn absennol o fywyd y teulu, ac yn un am y menywod. O ganlyniad i hyn, cafodd Tennessee Williams ei fagu ar aelwyd ei fam-gu a'i dad-cu, ac mae cymeriad Amanda yn seiliedig ar ei fam. Roedd Tennessee Williams yn blentyn oedd yn dioddef salwch cyson, ac o ganlyniad, tyfodd yn agos iawn at ei chwaer, Rose. Roedd hi hefyd yn wanllyd ac yn dioddef o orbryder. Hi, felly, odd yr ysbrydoliaeth i greu cymeriad Laura yn y ddrama."[2]
Cymeriadau
golygu- Tom Wingfield
- Amanda Wingfield - mam Tom
- Laura Wingfield - chwaer Tom
- Jim O'Connor - y gŵr galw
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y cyfieithiad yma gan Gwmni Theatr Cymru ym 1972 gyda Nesta Harris yn "serenu"[3]. Cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Martin Morley.
- Tom - Gwyn Parry
- Amanda - Nesta Harris
- Laura - Olwen Rees
- Jim - Frank Lincoln
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ (PDF) https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2021-22/wjec21-22_1-1/pdf/cym/pethe-brau.pdf. Missing or empty
|title=
(help) - ↑ "Nov 17, 1972, page 15 - Port Talbot Guardian at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.