Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Pontrhydyfen

pentref yng Nghymru

Pentref ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Pontrhydyfen (neu Pont-rhyd-y-fen). Saif yng Nghwm Afan ar lethrau'r bryniau lle mae Afon Pelenna yn rhedeg i mewn i Afon Afan. Mae yna bont amlwg yng nghanol y pentref (un o sawl pont) a adeiladwyd gan John Reynolds ym 1825. Hon yw "Y Bont Fawr", a oedd ar un adeg yn dwyn rheilffordd fach dros y cwm. Yn ddiweddarach roedd yn dwyn camlas i gario dŵr i'r gwaith haearn ger ardal Penycae (Oakwood nawr).

Pontrhydyfen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6318°N 3.7439°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

I'r de i lawr Cwm Afan mae pentref Cwmafan. I'r gogledd-ddwyrain lan y cwm mae Cynonville a pharc fforest Afan Argoed. I'r gorllewin mae tref Castell-nedd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[2]

Pobl o Bontrhydyfen

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU