Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Robert Gwynn Davies

cyfreithiwr a sylfaenydd Antur Waunfawr

Cyfreithiwr o Gymru a sylfaenydd Antur Waunfawr oedd Robert Gwynn Davies (19 Ionawr 192012 Hydref 2007). Fe'i urddwyd i’r wisg wen yn Eisteddfod Cwm Rhymni 1990; cafodd gynnig O.B.E. ar gyfer Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd Ionawr 1989 – ond fe'i gwrthododd.[1]

Robert Gwynn Davies
Ganwyd19 Ionawr 1920 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaAntur Waunfawr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed yn Tŷ Gwyn, Waunfawr, mab hynaf Jane Eunice Davies (1888–1978) ac Edward Davies (1886–1926). Ar ôl colli ei dad, symudodd gyda’i fam a’i frawd, Dewi, i 'Glanfa' at ei nain (Ellen Jones) a'i ewythr (W.H. Jones a gadwai Siop Bryn Pistyll). Mynychodd Ysgol y Cyngor, Waunfawr ac yna Ysgol y Sir, Caernarfon.

Priododd Mary Beta Jones (28 Mai 1921 – 13 Mawrth 2006) yn Waunfawr ac ymgartrefodd yn Gilfach. Ganed iddynt Sioned Gwynn Davies (1954-2022) a Gwion Rhys Gwynn Davies (1958). Symudodd y teulu i Bryn Eithin, a bu fyw yno hyd ei farwolaeth [2]

Ei waith

golygu

Ar ôl gadael yr ysgol aeth i wneud erthyglau i fod yn gyfreithiwr yn swyddfa Ellis Davies yng Nghaernarfon. Yn ystod y rhyfel cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol ac yng Ngorffennaf 1940 gan dreulio cyfnod y rhyfel yn was ffarm i Garreg Fawr, Waunfawr. Dychwelodd i’r swyddfa yn 1946 yna mynychu coleg yn Guildford cyn cymhwyso fel cyfreithiwr a mynd i weithio yn 1950 i R. Gordon Roberts & Co, Llangefni fel cyfreithiwr cynorthwyol ac yna’n bartner.

Symudodd i weithio yn 1957 fel Cyfreithiwr Cynorthwyol i Gyngor Sir Gaernarfon, yna’n Uwch Gyfreithiwr Cynorthwyol a Chlerc Cynorthwyol y Cyngor. Yn 1972 aeth yn Glerc Ynadon Bangor, Conwy/Llandudno a Betws y Coed ond ymddeol yn gynnar yn 1983 i weithio i’r Comisiwn Iechyd Meddwl ac yna sefydlu Antur Waunfawr fel cwmni corfforedig gyda statws elusennol ar 22 Mehefin 1984.

Yn ogystal bu yn gyfarwyddwr Gwasanaeth Adfocatiaeth a Chynghori Gogledd Cymru (28/1/1997 – 12/10/2007), cyfarwyddwr Anabledd Dysgu Cymru (8/9/1992 – 30/9/1994) a chadeirydd SCOVO (dan adain Strategaeth Cymru Gyfan 1983).

Diddordebau

golygu

Enillodd gadair Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn 1993 a derbyniodd fedal Syr T.H Parry Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Tŷ Ddewi, 2002. Bu'n aelod o dȋm Talwrn y Beirdd Waunfawr a ddaeth i’r brig yn 2003.

Roedd ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac roedd yn aelod o Blaid Cymru. Ymhlith ei ddiddordebau eraill roedd gwaith pren, celf, gwneud gwin cartref a chwarae golff.

Ei athroniaeth

golygu

Mae gan pob person gyfrifoldeb i wasanaethu cymdeithas hyd eithaf ei allu ac yn ôl safon ei allu, a’r hawl i gael gwneud hynny pa un a yw yn anabl neu beidio.

Cyhoeddiadau

golygu
  • Anturiaf Ymlaen, Cyfres y Cewri 13 (Gwasg Gwynedd, 1994)
  • Y Waun a’i Phobl (Antur Waunfawr, 1996)
  • John Evans, Waunfawr (Antur Waunfawr, 1999) – Darlith Undeb Cymru a’r Byd, Eisteddfod Genedlaethol Môn

Cyfeiriadau

golygu