Saeson
Y Saeson yw'r genedl a drig yn Lloegr fel cartrefle cynhenid iddi. Mae'r gair Gymraeg "Saeson" yn ffurf ar y gair Saxon. Un o sawl llwyth o bobl Ellmynig a ddechreuodd ymdeithio i Ynys Brydain yn y 5ed ganrif, ac yn ddilynol oresgyn y parthau o'r Ynys a adwaenid wedyn fel Lloegr, neu England, yn eu hiaith Deutonig eu hunain, oedd y Saxon neu'r Saeson. Gyda lwythau Teutonig eraill gelwir y bobl hyn yn Anglo-Saxon ganddyn nhw eu hunain a'u haneswyr. Fe'i arferir fel term cyfystyr â 'Seisnig' neu 'Saesneg' am y gwledydd lle siaredir Saesneg. Defnyddir hefyd yr elfen arall yn y term hwnnw, sef Anglo i gyfeirio at England a phethau'r Saeson. Mae'n cael ei ymestyn i gyfeirio at Brydain gyfan, h.y. Anglo-French wrth gyfeirio at ymwneud Prydain a Ffrainc a'i gilydd. Tardd yr elfen Eng -lish o Angle.
Cyfanswm poblogaeth | |
---|---|
90 miliwn | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
DU: 45 miliwn Yr Unol Daleithiau: 28 miliwn Canada: 6 miliwn Awstralia: 6 miliwn | |
Ieithoedd | |
Saesneg | |
Crefydd | |
Cristnogaeth, arall, dim | |
Grwpiau ethnig perthynol | |
Americaniaid, Canadiaid, Awstraliaid, a phobloedd eraill o dras Seisnig. Hefyd: Ffrisiaid, Iseldirwyr, Almaenwyr, Llychlynwyr |
Yng Nghymru, defnyddir y term 'Saeson' gan bobl Gymraeg gyffredin am y nifer mawr o bobl Saesneg eu hiaith yn y wlad, neu gyd genedl heb ddim Cymraeg ganddyn bellach, yn dilyn y dinistriad helaeth ar y Gymraeg dros yr 20g, yn hytrach nag am Saeson Lloegr yn unig ac yn benodol. Ceir enghraifft gynnar o 'Sais' fel ansoddair yn yr ystyr "un yn medru Saesneg" yn enw'r bardd Elidir Sais yng nghyfnod Llywelyn Fawr.