Sean Lock
Digrifwr ac actor o Loegr oedd Sean Lock (22 Ebrill 1963 – 16 Awst 2021)[1]. Dechreuodd ei yrfa fel comedïwr ar ei sefyll, ac enillodd Wobr Gomedi Prydain yn 2000 yn y categori Comedïwr Byw Gorau ac fe'i enwebwyd ar gyfer y Wobr Gomedi Perrier.[2]
Sean Lock | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1963 Chertsey |
Bu farw | 16 Awst 2021 o canser yr ysgyfaint Muswell Hill |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor, sgriptiwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm, actor teledu |
Arddull | deadpan, digrifwch swreal |
Gwobr/au | Gwobrau Comedi Prydain |
Gwefan | https://progressforamerica.org/sean-lock/ |
Adnabyddir Lock yn dda ar gyfer ei ymddangosiadau ar deledu a radio. Roedd wedi ysgrifennu comedi i gomedïwyr eraill megis Bill Bailey, Lee Evans a Mark Lamarr ac yn 2007 fe'i bleidleisiwyd i'r 55ain safle ar restr Channel 4 y 100 Comedïwr ar ei Sefyll Gorau, yn 2010 daeth i'r 19eg safle ar yr un rhestr. Mae'n bosib ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel capten tîm ar y rhaglen gomedi banel 8 Out of 10 Cats o'i ddechrau yn 2005 hyd at 2015. Aeth ymlaen i fod yn gapten tîm rheolaidd ar y chwaer rhaglen 8 Out of 10 Cats Does Countdown.
DVDau Comedi ar ei sefyll
golyguTeitl | Rhyddhawyd | Nodiadau |
---|---|---|
Live | 17 Tachwedd 2008 | Yn fyw yn yr HMV Hammersmith Apollo, Llundain |
Lockipedia Live | 22 Tachwedd 2010 | Yn fyw yn yr HMV Hammersmith Apollo, Llundain |
Purple Van Man | 18 Tachwedd 2013 | Yn fyw yn yr HMV Hammersmith Apollo, Llundain |
"Keep It Light - Live" | 20 Tachwedd 2017 | Yn fyw yn y Theater Royal, Margate |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sean Lock: Comedian and 8 Out of 10 Cats captain dies aged 58 (en) , BBC News, 18 Awst 2021.
- ↑ "A word with comedian Sean Lock".