Sefydliad Celf Courtauld
prifysgol yn Llundain
Prifysgol ac oriel gelf yn Llundain yw Sefydliad Celf Courtauld (Saesneg: Courtauld Institute of Art), a sefydlwyd ym 1932. Mae'n rhan o Brifysgol Llundain. Mae'n arbenigo mewn astudio hanes a chadwraeth celf; hon oedd y brifysgol gyntaf yng ngwledydd Prydain i gynnig hanes celf fel pwnc. Fe'i lleolir yn Somerset House, adeilad rhestredig Gradd I ar y Strand yn Ninas Westminster.
Math | prifysgol gyhoeddus |
---|---|
Ardal weinyddol | Llundain |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Llundain |
Lleoliad | Llundain |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cod post | WC2R 0RN |
Sefydlwydwyd gan | Samuel Courtauld |
Lleolwyd y sefydliad yn Home House, tŷ Sioraidd crand a gynlluniwyd gan Robert Adam, yn wreiddiol. Symudodd i Somerset House, a fu gynt yn gartref i Academi Frenhinol y Celfyddydau, ym 1989–90. Yn yr oriel gelf ceir casgliad pwysig o weithiau gan yr Argraffiadwyr a'r Ôl-Argraffiadwyr a gasglwyd gan sylfaenydd y sefydliad, Samuel Courtauld (1876–1947)
Cyn-fyfyrwyr
golygu- Vincent Price, actor
- Brian Sewell, beirniad celf
- Iain Sinclair, awdur
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol