Sefydliad y Merched
Ffurfiwyd Sefydliad y Merched (Saesneg: Women's Institute) gyntaf yng Ngwledydd Prydain yn 1915, a hynny yn Llanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn. Cafodd y mudiad Sefydliad y Merched cyntaf yn y byd ei sefydlu yng Nghanada yn 1897, ond ffurfiwyd y mudiad yng Nghymru yn 1915 gyda'r nod o annog menywod i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gyflenwi bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 16 Medi 1915, 1915 |
Lleoliad yr archif | Women's Library Archives |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.thewi.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn nhai'r aelodau y cynhaliwyd y cyfarfodydd ar y cychwyn. Dilynwyd y gangen gyntaf gyda changhennau yn Nghefn, Trefnant, Chwilog, Glasfryn, Llanystumdwy a Chricieth.
Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd canghennau lunio rhaglenni o waithgareddau a oedd yn seiliedig ar ddiddordebau'r aelodau.[1]
Yn 1967 ffurfiwyd Merched y Wawr gan Zonia Bowen a chriw y W.I. o'r Parc, y Bala, gan gynnig arlwy debyg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
Yn 2006 roedd gan y W.I. dros 500 o ganghennau yng Nghymru; 16,000 o aelodau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 [1] Archifwyd 2017-10-01 yn y Peiriant Wayback www.thewi.org.uk, adalwyd 10 Medi 2017