Tuduriaid Penmynydd
Teulu o uchelwyr Cymreig fu a rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ddiweddarach Lloegr oedd Tuduriaid Penmynydd. Cysylltir hwy a phentref Penmynydd ar Ynys Môn.
Roedd y teulu yn ddisgynyddion Ednyfed Fychan (bu farw 1246), distain Llywelyn Fawr a'i fab Dafydd ap Llywelyn. Roedd Ednyfed Fychan ei hun yn ddisgynnydd o Farchudd ap Cynan. Priododd Ednyfed a Gwenllian ferch Rhys, merch Rhys ap Gruffudd ("Yr Arglwydd Rhys").
Adeiladau
golyguAdeiladwyd y plasdy presennol, Plas Penmynydd, yn 1576, ond bu plasdy cynharach ar yr un safle neu gerllaw. Ymwelodd y bardd Iolo Goch â'r plasdy rhywbryd yn y cyfnod 1367-82. Mae'n moli croeso hael Goronwy ap Tudur Fychan (Gronw Fychan) ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:
- Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
- Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
- Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
- Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
- Yno mae, heb gae ar ged,
- Ail drigiant aelwyd Rheged.[1]
Mae beddfaen alabaster cerfiedig Gronw Fychan, a fu farw yn 1382, gyda'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys y plwyf.
Cefndryd Owain Glyn Dŵr, a'u disgynyddion
golyguYn nechrau'r 15g, roedd brodyr Gronw Fychan, Rhys ap Tudur, Gwilym ap Tudur a Maredudd ap Tudur, yn bleidwyr blaenllaw i Owain Glyndŵr. Oherwydd hyn collodd y teulu y rhan fwyaf o'u tiroedd. Roedd Gronw Fychan ei hun wedi marw cyn dechrau gwrthryfel Glyn Dŵr, felly dychwelwyd cyfran o diroedd y teulu i'w ddigynyddion ef yn ddiweddarach.
Aeth mab Maredudd, Owain, i Lundain, lle newidiodd ei enw o Owain ap Maredudd i Owain Tudur (Owen Tudor). Syrthiodd Catrin o Valois, gweddw Harri V, brenin Lloegr mewn cariad ag ef, ac mae'n debyg iddynt briodi, er nad oes prawf o hyn. Cawsant bum plentyn, yn cynnwys Edmwnd Tudur a Siasbar Tudur. Daeth mab Edmwnd, Harri Tudur, yn frenin Lloegr fel Harri VII.
Llinach
golyguYmhlith aelodau'r teulu roedd:
- Goronwy ab Ednyfed, Arglwydd Tregastell, bu farw 1268, distain Gwynedd
- Tudur ab Ednyfed, brawd Goronwy, a'i dilynodd fel distain Gwynedd
- Tudur Hen, Arglwydd Pemmynydd, bu farw 1311, mab Goronwy ab Ednyfed
- Goronwy ap Tudur Hen, bu farw 1331
- Tudur Fychan neu Tudur ap Goronwy, Arglwydd Pemmynydd, bu farw 1367
- Goronwy ap Tudur Fychan (bu farw 1382)
- Rhys ap Tudur, dienyddiwyd yng Nghaer yn 1412
- Gwilym ap Tudur
- Maredudd ap Tudur, bu farw 1406
- Owain Tudur neu Owain ap Maredudd, 1400–1461
- Edmwnd Tudur, Iarll Richmond, 1430–1456
- Harri VII, brenin Lloegr, 1457–1509
- Edmwnd Tudur, Iarll Richmond, 1430–1456
- Owain Tudur neu Owain ap Maredudd, 1400–1461
- Tudur Fychan neu Tudur ap Goronwy, Arglwydd Pemmynydd, bu farw 1367
- Goronwy ap Tudur Hen, bu farw 1331
- Tudur Hen, Arglwydd Pemmynydd, bu farw 1311, mab Goronwy ab Ednyfed
Perthynas y teulu i Owain Glyn Dŵr
golyguMae'r goeden deulu ganlynol yn dangos y berthynas rhwng y ddau deulu: teulu Glyn Dŵr a Thuduriaid Penmynydd.
Goronwy ap Tudur Hen (Teulu Ednyfed Fychan) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd Fychan II m. cyn 1340 | Elen ferch Tomos | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy m. 1367 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Glyn Dŵr c. 1354 - c. 1414 | Maredudd m.1406 | Rhys m. 1409 | Gwilym m. 1413 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Llinach gwrywaidd y Tuduriaid
golyguDyma linach gwrywaidd y Tuduriaid o Ednyfed Fychan hyd at Harri VII, brenin Lloegr.
Ednyfed Fychan m. 1246 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ab Ednyfed m. 1268 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tudur Hen (neu Tudur ap Goronwy) m. 1311 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ap Tudur Hen m. 1331 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Elen ferch Tomos (mam Owain Glyn Dŵr) | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy m. 1367 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Maredudd ap Tudur m. 1406 | Rhys ap Tudur m. 1409 | Gwilym ap Tudur m. 1413 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur m. 1461 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Edmwnd Tudur m. 1456 | Siasbar Tudur m.1495 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Harri VII, brenin Lloegr m. 1507 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Llyfryddiaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52