Undeb Rygbi Cymru
Undeb Rygbi Cymru yw'r corff sy'n rheoli rygbi'r undeb yng Nghymru. Sefydlwyd yn y "Castle Hotel" yng Nghastell Nedd gan 16 tim rygbi ar y 12fed o Fawrth, 1881.
Math | corff llywodraethol rygbi'r undeb |
---|---|
Aelod o'r canlynol | World Rugby |
Sefydlwyd | 12 Mawrth 1881 |
Aelod o'r canlynol | World Rugby, Rugby Europe |
Pencadlys | Caerdydd |
Lle ffurfio | Castell-nedd |
Gwefan | https://www.wru.wales/, https://www.wru.wales/cy/ |
Yr Undeb sy'n penodi prif hyfforddwr tîm rygbi cenedlaethol Cymru.
Beirniadaeth
golyguFfrae enw'r Cwpan
golyguYn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'r Tywysog William yn Ddirpwy Noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007. Yn ogystal, cyhoeddodd yr URC eu bod am weld ci enillwyr y gemau prawf rhwng Cymru a De Affrica yn cael ei galw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hynny wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru am fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr. Eisoes mae nifer o Gymry yn galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn galw am ei newid i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn cwbl anaddas. Lawnsiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo
Honiadau o ddiwylliant gwenwynig
golyguAr 29 Ionawr 2023, ymddiswyddodd y prif weithredwr Steve Phillips yn dilyn ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates ddatgelu cyfres o honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.[1]
Yn Awst 2023, penodwyd Abi Tierney yn brif weithredwr, y fenyw cyntaf i ddal y swydd honno.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ymddiswyddo". BBC Cymru Fyw. 2023-01-29. Cyrchwyd 2023-08-17.
- ↑ "URC yn penodi'r prif weithredwr benywaidd cyntaf". BBC Cymru Fyw. 2023-08-16. Cyrchwyd 2023-08-17.