Vancouver
Dinas yng ngorllewin Canada yw Vancouver.
Math | dinas fawr, city in British Columbia, tref ar y ffin |
---|---|
Enwyd ar ôl | George Vancouver |
Poblogaeth | 662,248 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ken Sim |
Cylchfa amser | UTC−08:00, America/Vancouver |
Gefeilldref/i | Caeredin |
Daearyddiaeth | |
Sir | Metro Vancouver Regional District |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 115 km² |
Uwch y môr | 2 metr |
Gerllaw | Afon Fraser, Burrard Inlet, English Bay |
Yn ffinio gyda | West Vancouver, Burnaby, University Endowment Lands, Richmond, North Vancouver |
Cyfesurynnau | 49.2608°N 123.1139°W |
Cod post | V5K |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Vancouver |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Vancouver |
Pennaeth y Llywodraeth | Ken Sim |
Sefydlwydwyd gan | William Cornelius Van Horne |
- Mae'r erthygl yma am ddinas Vancouver. Am yr ynys, gweler Ynys Vancouver
Vancouver yw dinas fwyaf talaith British Columbia ar arfordir gorllewinol Canada. Sefydlwyd gwladfa fach o'r enw "Gastown" ar y safle ym 1862 a datblygodd yn dre fach o'r enw "Granville". Ailenwyd y dre yn "Vancouver" ym 1886 ar ôl y fforiwr George Vancouver (1757-1798).
Erbyn heddiw mae hanner miliwn o bobl yn byw yn y ddinas gyda dros 2 miliwn yn ardal ddinesig Vancouver Fwyaf. Mae ardal dinas Vancouver yn cynnwys bron hanner poblogaeth talaith British Columbia.
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn Vancouver, ynghyd â thref Whistler.
Cludiant
golyguBysiau
golyguMae Bysiau Greyhound yn mynd i ddinasoedd eraill yn Ganada. Mae bysiau Pacific yn mynd i Victoria a Whistler, Snowbws i Whistler; mae bysiau Cantrail a Quick Shuttle yn mynd i Seattle.
Feriau
golyguMae Feriau BC yn cysylltu'r ddinas â'r ynysoedd yn Columbia Brydeinig. Mae Seabus yn mynd o derminws Waterfront, ynghanol y ddinas, i Ogledd Vancouver
Trenau
golyguMae trenau VIA Rail yn mynd i ddinasoedd eraill yng Nghanada, ac mae Amtrak yn croesi'r ffin i Portland, Oregon a Seattle.
Awyrennau
golyguMae gan Vancouver maes awyr rhyngwladol (YVR), ac mae awyrennau môr yn cynnig gwasanaethau o'r harbwr i'r ynysoedd.
Cludiant lleol
golyguMae Translink yn cynnig cludiant yn ardal Vancouver, gan gynnwys bysiau a threnau. Mae Skytrain yn cynnwys 2 lein, ac mae un arall, Canada Line, yn mynd o'r ddinas i'r maes awyr.
West Coast Express
golyguMae West Coast Express yn gyfres o drenau 5 yn y bore o Mission i Vancouver, a 5 yn y prynhawn yn ôl i Mission, rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Mae gwasanaeth bws hefyd.[1]