Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Gŵyl Mabsant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen Cwm Eithin
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Gŵyl Mabsant''' (neu '''Gwylmabsant''', '''Gŵyl Fabsant'''<ref>Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>) yw'r ŵyl a gysylltid â sant [[eglwys]] [[plwyf|blwyf]] yng [[Cymru|Nghymru]], yn arbennig yn y cyfnod cyn y [[Diwygiad Protestannaidd]] er mai gŵyl [[pagan|baganaidd]] ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur [[Cwm Eithin]].
'''Gŵyl Mabsant''' (neu '''Gwylmabsant''', '''Gŵyl Fabsant'''<ref name="Hugh Evans 1931">Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>) yw'r ŵyl a gysylltid â sant [[eglwys]] [[plwyf|blwyf]] yng [[Cymru|Nghymru]], yn arbennig yn y cyfnod cyn y [[Diwygiad Protestannaidd]] er mai gŵyl [[pagan|baganaidd]] ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur [[Cwm Eithin]].


Yr oedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron [[cymdeithas]]ol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd [[llan]] yr eglwys leol fel arfer.
Roedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron [[cymdeithas]]ol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd [[llan]] yr eglwys leol fel arfer.


Gyda threigliad amser collwyd ystyr crefyddol yr ŵyl ac fe aeth yn achlysur seciwlar yn bennaf gyda'r pwyslais ar wledda, yfed a gorchestion ymladd a [[mabolgampau]] o ganlyniad i hynny. Ar [[Ynys Môn]], er enghraifft, byddai pobl yn trefnu rasys i ddynion a cheffylau gyda phobl yn betio ar y canlyniad. Arferid cystadlu ar y [[pedwar camp ar hugain]] hefyd.
Gyda threigliad amser collwyd ystyr crefyddol yr ŵyl ac fe aeth yn achlysur seciwlar yn bennaf gyda'r pwyslais ar wledda, yfed a gorchestion ymladd a [[mabolgampau]] o ganlyniad i hynny. Ar [[Ynys Môn]], er enghraifft, byddai pobl yn trefnu rasys i ddynion a cheffylau gyda phobl yn betio ar y canlyniad. Arferid cystadlu ar y [[pedwar camp ar hugain]] hefyd.
Llinell 7: Llinell 7:
Roedd yr [[Ymneilltuaeth|Ymneilltuwyr]] - yn arbennig y [[Methodistiaid]] - yn feirniadol iawn o'r gwyliau mabsant am eu bod yn cynrychioli "tywyllwch" yr oes [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] a theyrnasiad "[[ofergoel]]ion [[Pab]]yddol".
Roedd yr [[Ymneilltuaeth|Ymneilltuwyr]] - yn arbennig y [[Methodistiaid]] - yn feirniadol iawn o'r gwyliau mabsant am eu bod yn cynrychioli "tywyllwch" yr oes [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] a theyrnasiad "[[ofergoel]]ion [[Pab]]yddol".


Cysylltir yr Ŵyl Mabsant â'r [[baled]]i poblogaidd hefyd. Roedd yn amser da i [[Baledwyr Cymru|faledwyr crwydrol Cymru]] werthu eu cerddi. Mae nifer o [[Canu rhydd|gerddi rhydd]] y cyfnod o'r [[16eg ganrif|unfed ganrif ar bymtheg]] hyd ddiwedd y [[18fed ganrif|ddeunawfed]] yn gerddi i'w canu yn y gwyliau mabsant. Yn ôl [[William Morris (1705-1763)|William Morris]] chwaraewyd [[anterliwt]] yng Ngwylmabsant [[Tudno]], plwyf [[Llanwoddan]], 'a charreg fawr ysgwâr a thywarch rhyd-ddi ydoedd y ''stage''...'. Mae digon o dystiolaeth ar gael fod chwarae anterliwt yn rhan o'r ŵyl mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal.
Cysylltir yr Ŵyl Mabsant â'r [[baled]]i poblogaidd hefyd. Roedd yn amser da i [[Baled|Faledwyr Cymreig]] werthu eu cerddi. Mae nifer o [[Canu rhydd|gerddi rhydd]] y cyfnod o'r [[16eg ganrif|unfed ganrif ar bymtheg]] hyd ddiwedd y [[18fed ganrif|ddeunawfed]] yn gerddi i'w canu yn y gwyliau mabsant. Yn ôl [[William Morris (1705-1763)|William Morris]] chwaraewyd [[anterliwt]] yng Ngwylmabsant [[Tudno]], plwyf [[Llanwoddan]], 'a charreg fawr ysgwâr a thywarch rhyd-ddi ydoedd y ''stage''...'. Mae digon o dystiolaeth ar gael fod chwarae anterliwt yn rhan o'r ŵyl mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal.


== Cofnod disgrifiadol o'r hen ŵyl ==
== Cofnod disgrifiadol o'r hen ŵyl ==


Yn ei lyfr ''Celtic Folklore: Welsh and Manx'' dywed yr Athro [[Syr John Rhys]] i un Mr William Jones o [[Llangollen|Langollen]] sôn am Ŵyl Fabsant [[Beddgelert]] fel hyn: ''Digwyddodd y gwyliau hyn yn union fel yr un rwy wedi ei weld yn 1869 yn [[Heidelberg]] pan roedd y trigolion lleol yn dathlu "kermess" neu "kirchmesse" sef un o'u seintiau. Gŵyl o ddawnsio ac yfed cwrw ydoedd. Yn aml, oherwydd od y gwyliau hyn mor boblogaidd roedd yn rhaid wrth ychwaneg o wlâu a gelwid y gwelyau hyn yn "gwely g'l'absant".'' <ref>Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>
Yn ei lyfr ''Celtic Folklore: Welsh and Manx'' dywed yr Athro Syr [[John Rhŷs]] i un Mr William Jones o [[Llangollen|Langollen]] sôn am Ŵyl Fabsant [[Beddgelert]] fel hyn: ''Digwyddodd y gwyliau hyn yn union fel yr un rwy wedi ei weld yn 1869 yn [[Heidelberg]] pan roedd y trigolion lleol yn dathlu "kermess" neu "kirchmesse" sef un o'u seintiau. Gŵyl o ddawnsio ac yfed cwrw ydoedd. Yn aml, oherwydd od y gwyliau hyn mor boblogaidd roedd yn rhaid wrth ychwaneg o wlâu a gelwid y gwelyau hyn yn "gwely g'l'absant".'' <ref name="Hugh Evans 1931"/>


Dywed Marie Trevelyan: ''"Mal Santau" oedd un o'r enwau arni ac arferid eu cynnal ar ddyddiau pwysig megis [[Dydd Gŵyl Dewi]]. Roedd yno orchestion megis [[mabolgampau]], [[dawnsio]], [[canu]] a llawer mwy. Deuai chwaraewyr [[ffidil]] a [[telyn|thelyn]] yno o bob cyfeiriad. Cynhaliwyd rhai ohonynt yn neuadd y dref neu'r pentref, ond fel arfer yn y dafarn leol neu [[ysgubor]].'' <ref>Glimpses of Welsh Life and Character gan Marie Trevelyan, Llundain, 1893</ref>
Dywed Marie Trevelyan: ''"Mal Santau" oedd un o'r enwau arni ac arferid eu cynnal ar ddyddiau pwysig megis [[Dydd Gŵyl Dewi]]. Roedd yno orchestion megis [[mabolgampau]], [[dawnsio]], [[canu]] a llawer mwy. Deuai chwaraewyr [[ffidil]] a [[telyn|thelyn]] yno o bob cyfeiriad. Cynhaliwyd rhai ohonynt yn neuadd y dref neu'r pentref, ond fel arfer yn y dafarn leol neu [[ysgubor]].'' <ref>Glimpses of Welsh Life and Character gan Marie Trevelyan, Llundain, 1893</ref>


Yn ôl Robert Jones, [[Rhos Lan]]: ''Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul penodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant (un gair, sylwer) ac roedd hwnnw yn un o brif wyliau'r diafol; casglai ynghyd at eu cyfeillion liaws o ieuenctid gwamal o bell ac agos i wledda, meddwi, canu, dawnsio a phob gloddest arall. Parhâi'r cyfarfod hwn yn gyffredin o brynhawn Sadwrn hyd nos Fawrth.''<ref>Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>
Yn ôl Robert Jones, [[Rhos Lan]]: ''Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul penodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant (un gair, sylwer) ac roedd hwnnw yn un o brif wyliau'r diafol; casglai ynghyd at eu cyfeillion liaws o ieuenctid gwamal o bell ac agos i wledda, meddwi, canu, dawnsio a phob gloddest arall. Parhâi'r cyfarfod hwn yn gyffredin o brynhawn Sadwrn hyd nos Fawrth.''<ref name="Hugh Evans 1931"/>


== Disgrifiad ar gerdd (1859) ==
== Disgrifiad ar gerdd (1859) ==
Cyhoeddwyd y gerdd ganlynol gan [[Eos Iâl]], yn "Nrych y Cribddeiliwr" yn 1859<ref>Drych y Cribddeiliwr gan [[Eos Iâl]], 1859</ref>:
Cyhoeddwyd y gerdd ganlynol gan [[Eos Iâl]], yn "Nrych y Cribddeiliwr" yn 1859<ref>Drych y Cribddeiliwr gan [[Eos Iâl]], 1859</ref><ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.</ref>:


Ymgasglant ar y Suliau
Ymgasglant ar y Suliau
Llinell 24: Llinell 24:
I lan, neu bentre,
I lan, neu bentre,


I chwarae [[Tennis|tennis]],
I chwarae [[tennis]],


A bowlio [[Ceulus]],
A bowlio [[Ceulus]],


Actio [[Anterliwt|Anterliwtiau]],
Actio [[Anterliwt]]iau,


[[Dawns Morris|Morrus dawns]] a [[cardiau|chardiau]],
[[Dawns Morris|Morrus dawns]] a [[cardiau|chardiau]],
Llinell 63: Llinell 63:


Bexio am y trecha.
Bexio am y trecha.




== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
Llinell 72: Llinell 70:
*J. E. Caerwyn-Williams (gol.), ''Llên a Llafar Môn'' (Llangefni, 1963)
*J. E. Caerwyn-Williams (gol.), ''Llên a Llafar Môn'' (Llangefni, 1963)
*G. J. Williams, 'Glamorgan Customs in the Eighteenth Century', yn ''Gwerin'' (cyf. 1, 1957)
*G. J. Williams, 'Glamorgan Customs in the Eighteenth Century', yn ''Gwerin'' (cyf. 1, 1957)



[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]
[[Categori:Diwylliant gwerin Cymru]]
[[Categori:Diwylliant gwerin Cymru]]
[[Categori:Gwyliau Cristnogol|Mabsant]]
[[Categori:Gwyliau Cristnogol]]
[[Categori:Gwyliau Cymru|Mabsant]]
[[Categori:Gwyliau Cymru|Mabsant]]

[[en:Gŵyl Mabsant]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:33, 4 Tachwedd 2021

Gŵyl Mabsant (neu Gwylmabsant, Gŵyl Fabsant[1]) yw'r ŵyl a gysylltid â sant eglwys blwyf yng Nghymru, yn arbennig yn y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd er mai gŵyl baganaidd ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur Cwm Eithin.

Roedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron cymdeithasol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd llan yr eglwys leol fel arfer.

Gyda threigliad amser collwyd ystyr crefyddol yr ŵyl ac fe aeth yn achlysur seciwlar yn bennaf gyda'r pwyslais ar wledda, yfed a gorchestion ymladd a mabolgampau o ganlyniad i hynny. Ar Ynys Môn, er enghraifft, byddai pobl yn trefnu rasys i ddynion a cheffylau gyda phobl yn betio ar y canlyniad. Arferid cystadlu ar y pedwar camp ar hugain hefyd.

Roedd yr Ymneilltuwyr - yn arbennig y Methodistiaid - yn feirniadol iawn o'r gwyliau mabsant am eu bod yn cynrychioli "tywyllwch" yr oes Gatholig a theyrnasiad "ofergoelion Pabyddol".

Cysylltir yr Ŵyl Mabsant â'r baledi poblogaidd hefyd. Roedd yn amser da i Faledwyr Cymreig werthu eu cerddi. Mae nifer o gerddi rhydd y cyfnod o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddiwedd y ddeunawfed yn gerddi i'w canu yn y gwyliau mabsant. Yn ôl William Morris chwaraewyd anterliwt yng Ngwylmabsant Tudno, plwyf Llanwoddan, 'a charreg fawr ysgwâr a thywarch rhyd-ddi ydoedd y stage...'. Mae digon o dystiolaeth ar gael fod chwarae anterliwt yn rhan o'r ŵyl mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal.

Cofnod disgrifiadol o'r hen ŵyl

[golygu | golygu cod]

Yn ei lyfr Celtic Folklore: Welsh and Manx dywed yr Athro Syr John Rhŷs i un Mr William Jones o Langollen sôn am Ŵyl Fabsant Beddgelert fel hyn: Digwyddodd y gwyliau hyn yn union fel yr un rwy wedi ei weld yn 1869 yn Heidelberg pan roedd y trigolion lleol yn dathlu "kermess" neu "kirchmesse" sef un o'u seintiau. Gŵyl o ddawnsio ac yfed cwrw ydoedd. Yn aml, oherwydd od y gwyliau hyn mor boblogaidd roedd yn rhaid wrth ychwaneg o wlâu a gelwid y gwelyau hyn yn "gwely g'l'absant". [1]

Dywed Marie Trevelyan: "Mal Santau" oedd un o'r enwau arni ac arferid eu cynnal ar ddyddiau pwysig megis Dydd Gŵyl Dewi. Roedd yno orchestion megis mabolgampau, dawnsio, canu a llawer mwy. Deuai chwaraewyr ffidil a thelyn yno o bob cyfeiriad. Cynhaliwyd rhai ohonynt yn neuadd y dref neu'r pentref, ond fel arfer yn y dafarn leol neu ysgubor. [2]

Yn ôl Robert Jones, Rhos Lan: Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul penodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant (un gair, sylwer) ac roedd hwnnw yn un o brif wyliau'r diafol; casglai ynghyd at eu cyfeillion liaws o ieuenctid gwamal o bell ac agos i wledda, meddwi, canu, dawnsio a phob gloddest arall. Parhâi'r cyfarfod hwn yn gyffredin o brynhawn Sadwrn hyd nos Fawrth.[1]

Disgrifiad ar gerdd (1859)

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y gerdd ganlynol gan Eos Iâl, yn "Nrych y Cribddeiliwr" yn 1859[3][4]:

Ymgasglant ar y Suliau

I lan, neu bentre,

I chwarae tennis,

A bowlio Ceulus,

Actio Anterliwtiau,

Morrus dawns a chardiau,

Canu a dawnsio,

Chwarae pel a phitsio,

Taflu maen a throsol,

Gyda gorchest ryfeddol,

Dogio cath glap,

Dal llygoden mewn trap,

Cogio ysgyfarnog,

Ymladd ceiliogod,

Chwarae dinglen donglen,

Gwneud ras rhwng dwy falwen.

Jympio am yr ucha,

Neidio am y pella,

Rhedeg am y cynta,

Jogio am y pella,

Saethu am y cosa,

Bexio am y trecha.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.
  2. Glimpses of Welsh Life and Character gan Marie Trevelyan, Llundain, 1893
  3. Drych y Cribddeiliwr gan Eos Iâl, 1859
  4. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • J. E. Caerwyn-Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963)
  • G. J. Williams, 'Glamorgan Customs in the Eighteenth Century', yn Gwerin (cyf. 1, 1957)