Gŵyl Mabsant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
fab |
cyfeiriadaeth |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Gŵyl Mabsant''' (neu '''Gwylmabsant''', '''Gŵyl Fabsant''') yw'r ŵyl a gysylltid â sant [[eglwys]] [[plwyf]] yng [[Cymru|Nghymru]], yn arbennig yn y cyfnod cyn y [[Diwygiad Protestannaidd]]. |
'''Gŵyl Mabsant''' (neu '''Gwylmabsant''', '''Gŵyl Fabsant'''<ref>Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>) yw'r ŵyl a gysylltid â sant [[eglwys]] [[plwyf]] yng [[Cymru|Nghymru]], yn arbennig yn y cyfnod cyn y [[Diwygiad Protestannaidd]]. |
||
Yr oedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron [[cymdeithas]]ol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch cyffredinol. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd [[llan]] yr eglwys leol fel arfer. |

Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Cysylltir yr Ŵyl Mabsant â'r [[baled]]i poblogaidd hefyd. Roedd yn amser da i [[Baledwyr Cymru|faledwyr crwydrol Cymru]] werthu eu cerddi. Mae nifer o [[Canu rhydd|gerddi rhydd]] y cyfnod o'r [[16eg ganrif|unfed ganrif ar bymtheg]] hyd ddiwedd y [[18fed ganrif|ddeunawfed]] yn gerddi i'w canu yn y gwyliau mabsant. Yn ôl [[William Morris (1705-1763)|William Morris]] chwareuwyd [[anterliwt]] yng Ngŵylmabsant [[Tudno]], plwyf [[Llanwoddan]], 'a charreg fawr ysgwâr a thywarch rhyd-ddi ydoedd y ''stage''...'. Mae digon o dystiolaeth ar gael fod chwarae anterliwt yn rhan o'r ŵyl mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal. |

== Cyfeiriadau == |
|||
{{cyfeiriadau}} |
|||
===Llyfryddiaeth=== |
===Llyfryddiaeth=== |
Fersiwn yn ôl 05:51, 22 Chwefror 2009
Gŵyl Mabsant (neu Gwylmabsant, Gŵyl Fabsant[1]) yw'r ŵyl a gysylltid â sant eglwys plwyf yng Nghymru, yn arbennig yn y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd.
Yr oedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron cymdeithasol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch cyffredinol. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd llan yr eglwys leol fel arfer.
Gyda threigliad amser collwyd ysytyr crefyddol yr ŵyl ac fe aeth yn achlysur seciwlar yn bennaf gyda'r pwyslais ar wledda, yfed ac ymladd o ganlyniad i hynny. Ar Ynys Môn, er enghraifft, byddai pobl yn trefnu rasus i ddynion a cheffylau gyda phobl yn betio ar y canlyniad.
Roedd yr Ymneilltuwyr - yn arbennig y Methodistiaid - yn feirniadol iawn o'r gwyliau mabsant am eu bod yn cynrychioli "tywyllwch" yr oes Gatholig a theyrnasiad "ofergoelion Pabyddol".
Cysylltir yr Ŵyl Mabsant â'r baledi poblogaidd hefyd. Roedd yn amser da i faledwyr crwydrol Cymru werthu eu cerddi. Mae nifer o gerddi rhydd y cyfnod o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddiwedd y ddeunawfed yn gerddi i'w canu yn y gwyliau mabsant. Yn ôl William Morris chwareuwyd anterliwt yng Ngŵylmabsant Tudno, plwyf Llanwoddan, 'a charreg fawr ysgwâr a thywarch rhyd-ddi ydoedd y stage...'. Mae digon o dystiolaeth ar gael fod chwarae anterliwt yn rhan o'r ŵyl mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal.
Cyfeiriadau
- ↑ Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.
Llyfryddiaeth
- J.E. Caerwyn-Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963)
- G.J. Williams, 'Glamorgan Customs in the Eighteenth Century', yn Gwerin (cyf. 1, 1957)