Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Prag

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:11, 29 Mai 2015 gan Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
Prag
Lleoliad Yn y Weriniaeth Tsiec
Gwlad Y Weriniaeth Tsiec
Llywodraeth
Maer Adriana Krnácová
Daearyddiaeth
Uchder 177 - 399 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 1262106 (Cyfrifiad 2011)
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser CET (UTC+1),

Haf: CEST (UTC+2)

Gwefan http://praha.eu
Eglwys Týn (chrám Panny Marie před Týnem), Hen Dref, Prag
Hen Neuadd y Dref (Staroměstská radnice), Hen Dref, Prag
Castell Prag dros yr Afon Vltava (Hradčany)

Prifddinas a dinas fwyaf y Weriniaeth Tsiec yw Prag (Tsieceg: "Cymorth – Sain" Praha , Almaeneg: Prag). Mae hi'n ddinas o tua 1.2 miliwn o drigolion ar lân Afon Vltava. Mae canolfan hanesyddol y ddinas ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Sefydlwyd y dref yn y nawfed ganrif ac mewn ychydig roedd llys brenhinol Bohemia yno. Roedd rhai o frenhinoedd Bohemia yn ymerodwyr yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Roedd y dref yn blodeuo yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg o dan reolaeth Siarl IV, a adeiladodd ran newydd y dref, Pont Siarl, Eglwys Gadeiriol San Vitus (eglwys gadeiriol Gothig hynaf yng Nghanolbarth Ewrop) a'r brifysgol, yr un hynaf yng Nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'r Alpau.

Cyn 1784 roedd yna bedair ardal annibynnol: Hradčany (Ardal y Castell i'r gogledd o'r castell), Malá Strana (Ardal y Dref Lai i'r de o'r castell), Staré Město (Ardal yr Hen Dref ar lân ddwyreiniol yr afon gyferbyn â'r castell) a Nové Město (Ardal y Dref Newydd i'r de-ddwyrain o'r castell). Mae'r ddinas yn cynnwys nifer o drefi eraill heddiw, e.e. Josefov, Žižkov, Barrandov, Holesovice a Vyšehrad.

Lladdwyd hyd at 50,000 o Iddewon yn ystod hil-laddiad y Natsïaid yn y ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gefeilldrefi

Eginyn erthygl sydd uchod am Tsiecia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.