Queen
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Elektra Records, Capitol Records, EMI Records, Hollywood Records, Parlophone Records, Island Records, EMI |
Dod i'r brig | 1970 |
Dechrau/Sefydlu | 1970 |
Genre | roc blaengar, roc glam, cerddoriaeth roc caled, cerddoriaeth roc, roc celf, roc poblogaidd, metal trwm traddodiadol, cerddoriaeth metel trwm |
Gwefan | https://queenonline.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp roc byd-enwog o'r Deyrnas Unedig ydy Queen ac fe'i ffurfiwyd yn Llundain yn 1970 gan y gitarydd, Brian May, y canwr Freddie Mercury a'r drymiwr Roger Taylor, ymunodd y gitarydd bâs John Deacon blwyddyn yn ddiweddarach. Cododd Queen i'r amlwg yn ystod yr 1970au; maent yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus gwledydd Prydain dros y tri degawd diwethaf.[1]
Mae'r band yn nodweddiadol am ei amrywiaeth cerddorol, gyda chyfansoddiadau aml-haenog, harmonïau llais a chyfuniad cyfranogaeth y dorf yn eu perfformiadau byw.[2] Etholwyd eu perfformiad yn Live Aid 1985 y perfformiad cerddorol gorau erioed gan arolwg barn y BBC yn 2005.[3]
Cafodd Queen lwyddiant cymedrol yn gynnar yn yr 1970au gyda'r albymau Queen a Queen II, ond rhyddhad Sheer Heart Attack yn 1974 a A Night at the Opera y flwyddyn ganlynol a enillodd lwyddiant rhyngwladol i'r band. Mae pob un o albymau stiwdio'r band wedi cyrraedd safle rhif 1 mewn amryw o siartiau ar draws y byd. Ers 1973, maent wedi rhyddhau pymtheg albwm stiwdio, pump albwm byw a nifer o albymau casgliad. Yn ôl OhmyNews, mae'r band wedi gwerthu dros 300 miliwn copi ar draws y byd,[4] gan gynnwys mwy na 32.5 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig,[5] gan eu gwneud yn un o'r bandiau sydd wedi gwerthu'r nifer fwyaf erioed.
Yn dilyn marwolaeth Freddie Mercury ac ymddeoliad John Deacon yn yr 1990au,[6] mae'r gitarydd Brian May a'r drymiwr Roger Taylor wedi gweithio ynghyd â Paul Rodgers o dan yr enw Queen + Paul Rodgers.
Hanes
Dyddiau Cynnar (1969-1973)
"I thought up the name Queen. It's just a name, but it's very regal obviously, and it sounds splendid. It's a strong name, very universal and immediate. It had a lot of visual potential and was open to all sorts of interpretations." (Freddie Mercury)
Yn 1969, penderfynodd y gitarydd Brian May, myfyriwr yng Ngholeg Imperial Llundain, a'r gitarydd bâs Tim Staffell ffurfio grŵp. Rhoddodd May hysbyseb ar hysbysfwrdd y coleg ar gyfer drymiwr o "fath Mitch Mitchell/Ginger Baker"; clywelwyd Roger Taylor, myfyriwr deintyddol ifanc, a chafodd y swydd. Galwyd y grŵp yn Smile a gweithiont fel grŵp cefnogi bandiau megis Jimi Hendrix, Pink Floyd, Yes a'r Genesis gwreiddiol. Arwyddwyd Smile i label Mercury Records yn 1969, a chawsont eu sesiwn recordio cyntaf yn Trident Studios y flwyddyn honno. Roedd Staffell yn mynychu Ealing Art College gyda Farrokh Bulsara, a adnabuwyd yn ddiweddarach dan yr enw Freddie Mercury, a chyflwynodd ef i'r band. Daeth Bulsara yn ffan yn fuan. Gadawodd Staffell yn 1970 i ffurfio band arall, Humpy Bong;[7] anogwyd yr aelodau a oedd ar ôl yn Smile i newid eu henw i "Queen" gan Bulsara, a pharhaont i weithio gyda'i gilydd.[7] Cafodd y fand nifer o chwaraewyr gitâr fâs yn ystod y flwyddyn hon, gan newid yn gyson gan nad oeddent yn cydweddu gyda'r band. Ym mis Chwefror 1971 penderfynont gael John Deacon a dechreuont ymarfer ar gyfer eu albwm cyntaf.[8]
Yn 1973, ar ôl cyfres o oediadau, rhyddhaodd Queen eu albwm cyntaf, a'i ddylanwad yn gryf gan heavy metal a progressive roc y cyfnod. Derbyniwyd yr albwm yn dda gan y beirniaid; dywedodd Gordon Fletcher o'r Rolling Stone fod eu albwm yn ardderchog ("their debut album is superb").[9]
Prosiectau "Queen + …"
Datblygwyd nifer o brosiectau Queen + yn ystod y blynyddoedd ganlynol, ychydig ohonynt yn ail-gymysgiadau o'u gwaith heb unrhyw mewnbwn artistig gan y band. Yn 1999, rhyddhawyd albwm Greatest Hits III. Arni ymysg traciau eraill roedd "Queen + Wyclef Jean" ar fersiwn rap o "Another One Bites the Dust"; fersiwn byw o "Somebody to Love" gan George Michael; a fersiwn byw o "The Show Must Go On", a berfformiwyd yn 1997 gyda Elton John.
Perfformiodd Brian May a Roger Taylor yn fyw o dan yr enw Queen amryw o weithiau (seremonïau gwobrwyo, cyngherddau elusennol a digwyddiadau tebyg) gan rannu'r lleisio gydag amryw o gantorion gwestai. Maent hefyd wedi recordio nifer o gloriau o hits Queen, gan gynnwys "We Will Rock You" a "We Are the Champions".
Yn 2003, recordiwyd pedair cân newydd gan Queen ar gyfer ymgyrch 46664 Nelson Mandela yn erbyn AIDS. Nid yw'r fersiynau stiwdio o Invincible Hope (Queen + Nelson Mandela, gyda Treana Morris), 46664 - The Call, Say It's Not True, a Amandla (Anastacia, Dave Stewart a Queen) wedi cael eu rhyddhau ar albwm eto.
Perfformiadau Byw
Casglodd y band gatalog amrywiol o ganeuon gan wneud defnydd o systemau sain enfawr, goleuo, tân gwyllt, ac amryw o wisgoedd afradlon er mwyn helpu creu digwyddiadau theatrig difyr. Fel y prif lais, gallodd Mercury ymdrolli yng ngweniaith y gynulleidfa a ffynnodd ar eu cynnwrf. Helpodd Queen baratoi ysgogiad ar gyfer gweld stadiymau ac arenau mawr eraill fel lleoliadau ar gyfer cyngherddau roc. Arweiniodd enw da'r band am berfformiadau byw gwych i nifer o gyngherddau gael eu rhyddhau ar albymau a fideo. Gwerthwyd copïau Bootleg o gyngherddau Queen ar wefannau a thrwy gylchgronau ffaniau.
Yn y byd digidol
Rhyddhaodd Queen gêm cyfrifiadur y cyd gyda Electronic Arts yn 1998, Queen: The Eye, a oedd yn fethiant masnachol a beirniadol. Daeth y cerddoriaeth ei hun o gatalog eang Queen, ond roedd wedi eu hail-gymysgu, a gyda amryw o fersiynau offerynnol newydd a'u derbyniwyd yn dda ar y cyfan ond roedd y gêm ei hun yn wael. Cymerodd y gêm amser hir iawn i'w ddatblygu ac felly roedd nifer o'r elfennau graffegol i'w gweld ar ôl yr oes erbyn iddo gael ei ryddhau.
Albymau
- Queen (1973)
- Queen II (1974)
- Sheer Heart Attack (1974)
- A Night at the Opera (1975)
- A Day at the Races (1976)
- News of the World (1977)
- Jazz (1978)
- Live Killers (1979)
- The Game (1980)
- Flash Gordon (1980)
- Greatest Hits (1981)
- Hot Space (1982)
- The Works (1984)
- A Kind of Magic (1986)
- Live Magic (1986)
- The Miracle (1989)
- Innuendo (1991)
- Greatest Hits II (1991)
- Live at Wembley '86 (1992)
- Made in Heaven (1995)
- Queen Rocks (1997)
- Greatest Hits III (1999)
Cyfeiriadau
- ↑ "Queen, Top of the Pops". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-01-09. Cyrchwyd 2006-01-09.
- ↑ Queen declared 'top British band' BBC
- ↑ Queen win greatest live gig poll BBC 9 Hydref 2005
- ↑ "Queen Proves There's Life After Freddie, OhmyNews". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-24. Cyrchwyd 2007-12-06.
- ↑ Selling Artists, RIAA[dolen farw]
- ↑ "Queen News March 2006, brianmay.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-29. Cyrchwyd 2007-12-06.
- ↑ 7.0 7.1 "Queen Biography 1970, Queen Zone". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-15. Cyrchwyd 2007-12-06.
- ↑ "Queen Biography 1971, Queen Zone". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-08. Cyrchwyd 2007-12-06.
- ↑ Queen, Gordon Fletcher Archifwyd 2009-02-17 yn y Peiriant Wayback 6 Rhagfyr 1973, Rolling Stone Rhifyn 149