12 Years a Slave (ffilm)
Enghraifft o: | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | 30 Awst 2013 |
Genre | ffilm ddrama, ffilm am berson, ffilm yn seiliedig ar lyfr |
Cymeriadau | Solomon Northup, Edwin Epps, Patsey, William Prince Ford, Samuel Bass, James H. Birch |
Prif bwnc | caethwasiaeth yn Unol Daleithiau America, hiliaeth |
Lleoliad y gwaith | Louisiana, Dinas Efrog Newydd |
Hyd | 133 munud |
Cyfarwyddwr | Steve McQueen |
Cynhyrchydd/wyr | Brad Pitt, Dede Gardner, Bill Pohlad, Arnon Milchan, Jeremy Kleiner, Anthony Katagas, Steve McQueen |
Cwmni cynhyrchu | Plan B Entertainment, Film4 Productions, Regency Enterprises, Summit Entertainment |
Cyfansoddwr | Hans Zimmer |
Dosbarthydd | InterCom, ProVideo, Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Sean Bobbitt |
Gwefan | https://www.searchlightpictures.com/12yearsaslave/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffilm Brydeinig-Americanaidd hanesyddol, sy'n addasiad o'r cofiant o'r un enw gan Solomon Northup, ydy 12 Years a Slave. Mae'r ffilm yma'n cynnwys trais rhywiol.
Rhyddhawyd y ffilm yn 2013 ac mae'n olrhain hanes negro rhydd o Efrog Newydd a herwgipiwyd yn Washington, D.C. yn 1841 ac a werthwyd i gaethwasiaeth. Gweithiodd ar blanhigfa yn nhalaith Louisiana am ddeuddeg mlynedd cyn iddo gael ei ryddhau. Roedd yr argraffiad ysgholheigiadd cyntaf o gofiant Northrup, a gyd-olygwyd gan Sue Eakin a Joseph Logsdon yn 1968, yn olrhain yr hanes gan ddod i'r casgliad fod yr hanes yn hanesddyol gywir.
Dyma'r drydedd ffilm i gael ei chyfarwyddo gan Steve McQueen ac a ysgrifennwyd gan John Ridley. Chwaraeodd Chiwetel Ejiofor y brif rôl sef Northup. Chwaraeodd Michael Fassbender, Benedict Cumberbatch, Paul Dano, Paul Giamatti, Lupita Nyong'o, Sarah Paulson, Brad Pitt a Alfre Woodard rolau cefnogol hefyd. Ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r ffilm yn New Orleans, Louisiana, o 27 Mehefin tan 13 Awst, 2012, ar gyllideb o $20 miliwn. Defnyddiwyd pedwar lleoliad hanesyddol sef planhigfeydd antebellum: Felicity, Magnolia, Bocage, a Destrehan. O'r pedwar, Magnolia sydd agosaf i'r blanhigfa lle daliwyd Northup mewn gwirionedd.
Derbyniodd 12 Years a Slave adolygiadau clodwiw pan gafodd ei ryddhau yn 2013, a chafodd ei enwi'n ffilm y flwyddyn gan nifer o allfeydd cyfryngol. Yn 2014, derbyniodd y ffilm Wobr Golden Globe, a chafodd ei enwebi am naw o Gwobrau'r Acaemi yn cynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau i McQueen, yr Actor Gorau i Ejiofor, yr Actor Cefnogol Gorau i Fassbender, a'r Actores Gefnogol Orau i Nyong'o. Cafodd y ffilm ei chydnabod gan British Academy of Film and Television Arts (BAFTA) gyda gwobr y Ffilm Orau yn Chwefror 2014, gyda Ejiofor yn ennill y BAFTA am yr Actor Gorau.
Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Film.
Cast
[golygu | golygu cod]- Chiwetel Ejiofor fel Solomon Northup
- Lupita Nyong'o fel Patsey
- Michael Fassbender fel Edwin Epps
- Sarah Paulson fel Mary Epps
- Benedict Cumberbatch fel William Ford
- Brad Pitt fel Samuel Bass
- Paul Dano fel John Tibeats
- Adepero Oduye fel Eliza
- Paul Giamatti fel Theophilus Freeman
- Garret Dillahunt fel Armsby
- Scoot McNairy fel Brown
- Taran Killam fel Hamilton
- Chris Chalk fel Clemens Ray
- Michael K. Williams fel Robert
- Liza J. Bennett fel Mistress Ford
- Kelsey Scott fel Anne Northup
- Alfre Woodard fel Mistress Harriet Shaw
- Quvenzhané Wallis fel Margaret Northup
- Devyn A. Tyler fel Adult Margaret Northup
- Cameron Zeigler fel Alonzo Northup
- Rob Steinberg fel Parker
- Jay Huguley fel Sheriff Villiere
- Christopher Berry fel James Burch
- Bryan Batt fel Judge Turner
- Bill Camp fel Radburn
- Dwight Henry fel Uncle Abram
- Deneen Tyler fel Phebe
- Ruth Negga fel Celeste
Cyfarwyddwr
[golygu | golygu cod]Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Steve McQueen ar 9 Hydref 1969 yn Llundain. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1993 ond ni ellir dweud fod y gwaith wedi cyrraedd enwogrwydd byd-eang. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Gelf Chelsea.
Ymhlith y gwobrau mae wedi'u hennill y mae:
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
- 8.9/10[3] (Rotten Tomatoes)
- 95% (Rotten Tomatoes)
- 96/100
Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Film. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 187,733,202 $ (UDA).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.tate.org.uk/whats-on/tate-britain/exhibition/turner-prize-1999. dyddiad cyrchiad: 24 Chwefror 2022.
- ↑ https://www.oscars.org/oscars/ceremonies/2014. dyddiad cyrchiad: 24 Chwefror 2022.
- ↑ "12 Years a Slave". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 7 Hydref 2021.
- Rhestrau cuddiedig o Wicidata
- Ffilmiau 2013
- Ffilmiau drama Saesneg o'r Deyrnas Unedig
- Ffilmiau drama Saesneg
- Ffilmiau drama o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau hanesyddol
- Ffilmiau sy'n seiliedig ar hunangofiannau
- Ffilmiau gan gyfarwyddwyr ffilm gwrywaidd Saesneg
- Ffilmiau lliw o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau bywgraffyddol o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau gyda dros 10 o actorion lleisiol
- Ffilmiau a olygwyd gan Joe Walker
- Ffilmiau sydd a'u stori wedi'i lleoli yn Ninas Efrog Newydd
- Ffilmiau am drais rhywiol
- Ffilmiau hanesyddol o'r Deyrnas Unedig
- Ffilmiau 20th Century Fox