C'mon Midffîld!
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dechreuwyd | 18 Tachwedd 1988 |
Daeth i ben | 1994 |
Cyfarwyddwr | Alun Ffred Jones |
Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffîld! Cynhyrchwyd y rhaglen gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd gyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Darlledwyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, a darlledwyd tair cyfres cyn i C'mon Midffîld! symyd i sgriniau teledu ledled y wlad. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres â Mei Jones, a chwaraeodd y cymeriad poblogaidd Wali Thomas.
Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffîld! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel Only Fools and Horses gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: C'mon Midffîld a Rasbrijam. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.
Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3] Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.
Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Arthur Picton - John Pierce Jones
- Tecwyn Parri - Bryn Fôn
- Wali Thomas - Mei Jones
- George Huws - Llion Williams
- Sandra Picton/Huws - Sian Wheldon (Cyfres 1-4); Gwenno Hodgkins (Cyfres 5)
- Lydia Thomas - Catrin Dafydd
- Harri - Rhys Richards
- Graham - Mal Lloyd
- Jean Parri - Bethan Gwilym
Penodau
[golygu | golygu cod]Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD gan Sain rhwng 2005 [1] a 2007.
Cyfres 1
[golygu | golygu cod]- Y Maes Chwarae (DVD1)
- Seren Ddisglair (DVD1)
- Lladron y Nos (DVD1)
- Traed Moch (DVD1)
- Y Trip (DVD2)
- Nadolig Bryncoch (DVD 2) new Nadolig Llawen? (video 2) - yr un pennawd?
Cyfres 2
[golygu | golygu cod]- Cân Di Bennill Fwyn (1 awr, DVD2)
- Craig o Arian (DVD2)
- Bryn o Briten (DVD3)
- Y Gwir yn Erbyn y Byd (DVD3)
- Gweld Sêr (DVD3)
- Rhyfal Cartra (DVD3)
- Match o' Ddy De (DVD4)
Cyfres 3
[golygu | golygu cod]- Yr Italian Job (DVD4)
- Il Lavoro In Italia (DVD4)
- Yn Nhŷ Fy Nhad (DVD5)
- Tibetans v Mowthwalians (DVD5)
Cyfres 4
[golygu | golygu cod]- O Mam Bach (DVD5)
- Meibion Bryncoch (DVD7)
- Trwy Ddirgel Ffyrdd (DVD7)
- Fe Gei Di Fynd I'r Bôl (DVD7)
- 'Eira Mân, Eira Mawr' (DVD8)
- Yr Etholedig Rai (DVD8)
- Cymorth Hawdd Ei Gael (DVD8)
- Yr Alffa A'r Omega (DVD9)
Cyfres 5
[golygu | golygu cod]- Trwy Gicio A Brathu (DVD9)
- Henaint Ni Ddaw Ei Hunan (DVD9)
- Elen Fwyn, Elen Fwyn (DVD10)
- Mi Af I Briodas Yfory (DVD10)
- Y Cocyn Hitio (DVD10)
- Dechrau'r Diwedd (DVD10)
Rhaglenni/Ffilmiau Unigol
[golygu | golygu cod]- Midffîld - Y Mwfi (DVD6)
- C'mon Midffîld a Rasbrijam (DVD11)
- Doli Bryncoch
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 C'Mon Midffild? This is a friend Archifwyd 2007-06-09 yn y Peiriant Wayback Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
- ↑ 'Clwb pêl-droed yn dathlu 60' BBC 11 Mehefin 2007
- ↑ 'Dathlu 60 mlynedd o glwb Y Bont'[dolen farw] BBC 22 Gorffennaf 2007
- ↑ Enillwyr gwobrau ar wefan Ffilmiau'r Nant[dolen farw]