Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Coeden afalau surion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Coed afalau surion)
Malus sylvestris
Delwedd o'r rhywogaeth
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Malus
Rhywogaeth: M. sylvestris
Enw deuenwol
Malus sylvestris
Carolus Linnaeus

Planhigyn blodeuol sy'n frodorol o Hemisffer y Gogledd yw Coeden afalau surion sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Rosaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Malus sylvestris a'r enw Saesneg yw Crab apple.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Pren Afal Sur, Afal Sur, Afal Sur Bach, Afalau Surion Bach, Afalen Wyllt, Afalwydden, Afallen, Afallen Sur, Coed Afalau Surion Bach, Cogwm, Corafal, Crabotsen, Crabosyn, Pren Afalau, Pren Crabas, Pren Grosbos, Surafal, Surafallen.

Mae'r teulu Rosaceae yn perthyn i'r genws Rosa (rhosyn) fel ag y mae'r cotoneaster a'r eirinen. Prif nodwedd y teulu yw ei ffrwythau amrywiol a phwysig i economi gwledydd.[2] Ceir 5 sepal, 5 petal ac mae'r briger wedi'u gosod mewn sbeiral sy'n ffurfio llestr tebyg i gwpan o'r enw hypanthiwm.

Ceir sawl enw amgen i'r Malus sylvestris gan gynnwys Pren afal sur, Afal sur, Afal sur bach, Afalau surion bach, Afalen wyllt, Afalwydden, Afallen, Afallen sur, Coed afalau surion bach, Cogwm, Corafal, Crabotsen, Crabosyn, Pren afalau, Pren crabas, Pren grosbos, Surafal a Surafallen.

Ffenoleg

[golygu | golygu cod]

Coeden â blodau hardd o ddiwedd mis Ebrill neu ddechrau Mai (3ydd Mai ar gyfartaledd yn ôl data a gasglwyd dros gyfnod ddechrau'r 20G (Sparks, cys. pers.) yn ardal Caerwrangon). Mae'n debyg fod yr amser blodeuo y pryd hynny fymryn yn gynt yng Nghymru, a, diolch i newid yr hinsawdd, fymryn yn gynt eto heddiw.

Ecoleg

[golygu | golygu cod]

Ystyrir bod ffrwyth yr afallen wyllt wedi ei gyfaddasu i'w fwyta gan famoliaid megis moch gwyllt sydd yn gwerthfawrogi'r siwgwr sydd ynddi (er mai sur ydynt o'u cymharu â'r cwltifarau fel mae'r enw yn awgrymu). Cymerodd yr anifeiliaid hwynt oddiar lawr y goedwig a'u gwasgaru trwy'r tail. Hyn sydd i'w gymharu a ffrwythau coed o fathau eraill sydd yn parhau'n hwy ar y goeden (celyn etc.), ac nad ydynt yn felus. Cafodd rhain eu haddasu i ddenu adar, creaduriaid sydd yn gallu manteisio ar y ffrwyth tra'n aros ar y brigyn ac nad oes ganddynt y modd i flasu melysrwydd i'r un graddau â mamol.

Ystyrir y goeden afalau surion yn goeden sydd yn ffynnu orau i ffwrdd o goed eraill (ee. Rackham 1989[3]), ond mae Tansley [4] yn dweud iddo dyfu o bryd i'w gilydd, ac weithiau yn aml, mewn coedwigoedd derw, yn enwedig yn ne Lloegr.

Perthynas â dyn

[golygu | golygu cod]
Safonol

Coeden afalau surion (b.) coed afalau surion a'i ffurfiau domestig: coeden afalau (b.) coed afalau coeden afalau porffor (b.) coed afalau porffor1

Enw Lladin (yn unol a dull Stace 1997 2) Malus sylvestris a'i ffurfiau domestig: Malus domestica, Malus x purpurea ond mae hanes y berthynas rhwng yr afal fwytadwy a'r afallen gynhenid wyllt yn gymhleth[5]

Amgen

Enwau Cymraeg eraill yw afalwydden, afallen, crabotsen, pren afalau, pren crabas3 pren afal sur, afal sur, afal sur bach, afalau surion bach, afalen wyllt, afalwydden, afallen, afallen sur, coed afalau surion bach, cogwrn, corafal, crabotsen, crabosyn, pren crabas surafal, surafallen4. Ceir hefyd y ffurf domestig "cwmber" (cys. pers. Gerallt Pennant).

Tarddenwau

Planhigion a enwyd ar ôl afal neu fathau o afal:

Adam: Adam's Apple, bergamot; Afal Adda: lady's seal, black bryony (16G); Afal Anna: St Anna's apple, golding (1813); Afal aur : golden apple (1450-80) ; Afal Awst: James apple; Afal y brenin: pomeroy(al), king-apple; Afalau'r bwci: hips (1780); Afal cadw: keeper, winter apple; Afal cariad: love apple (1770); Afal coch y rhwd: russet; Afal croen (yr) hwch: leather coat, russet (1783); afal cwins: quince (1754); afal daear, afal y ddaear: birthwort, sowbread; afalau'r deri, -derw: oak apple, gall-nut (1632); afal digymar: non-pareil (1604); afalau'r drain: haws (1778); afal dreiniog: thorn apple; afal euraid: orange (1813); afal y frenhines: queen apple; afal gronog: pomegranite (1780); afal gronynnog: (1400); afal gwaharddedig: forbidden apple; afal gwlanog: peach (1346); afal Mair: Mary apple (1860); afal melyn: lemon (1445-75), orange (1805); afal melyn(h)ir: lemon (1842); afal y allot*: math o blanhigyn y môr (1727); afal oraens: orange (1745); afal paradwys: sweeting, pome-paradise (1450-80); afal peatus: peach (1604-7); afal per: sweeting (1632); afal pig y golomen: pigeon's bill (1632); afal pin, -pinwydd: pineapple; afal Sodom: apple of Sodom (1762); afal sur: crab apple (1725-6); afal tatws: potato apple (1759); afal tinagored: medlar (1846)

Ffrwyth yr afal tinagored neu'r medlar
Etymoleg yr enw(au)

afal H. Gym. Abal, Crn. a Llyd. aval: abalo-, (cytras â Saesneg apple) eg. -au, crabas skrabba (Swedeg am goeden afalau surion) > scrab (Saesneg y gogledd), a crab (Saesneg 14g.) b. > crabysyn crebysyn, crabosyn, llu. crabas, crabos, crabys; cogwrn [cf. Gael. Cogarn neu benthyciad o'r Saesneg Canol cocke 'heap' + -wrn fel yn asgwrn, migwrn, talwrn] yn golygu cnap, mwdwl, pentwr, cragen, afal sur [6]

Enwau Ileoedd ayb

O 812 o enwau Ileoedd yn y Siarteri Eingl-Sacsonaidd a Chymreig ceir 0.5% yn cyfeirio at afal o rhyw fath, neu berllan (a all gynnwys coed gellyg hefyd)[7] .

Gall fod enwau lleoedd sy'n ymddangos yn cyfeirio at y goeden, ffrwyth neu berllan yn cyfeirio yn hytrach at enw personol: Aballac, Afallach, ee. Ynys Afallach, Glastonbury.

Enghreifftiau o yma a thraw: Gwern Afalau, Llandwrog, Cae'r Berllan, .......?

Mae degau o enwau y gellir olrhain eu hystyr i afal neu bren afalau sydd yn Rhestr Melville Richards [1] ee. PwIl yr Afall (Llansanffraid Tfn.) cf. Tir Afallach Tirefeillach cf. Rhiw Afallen Tyddyn Afallen (Dolwyddelan), Cwm afallen (Llanarmon Dyffryn Ceiriog), Tyddyn yr Afallen (Amlwch), Maes yr Afallenni, Nant Rhiw AfallenNodyn:Cronfa Melville Richards

Gerddi

4th. Ebrill 1748: The Wind E. blowing fresh and cold & generally Sun shiny & dry all day; Inoculated to day 6 berries of the Misletoe, 4 in the smooth rind of 4 Oaks, one in an Apple tree, & one in an Ash.

10 12 1748: ....I my Self am employed most part of this week in pruneing dressing & shaping my hollow Dwarf Apple Trees & Espaliers? that were grown out of all order; and my Gardiner is mucking & dressing the borders in the new Orchard...[8]

Llên Gwerin

[golygu | golygu cod]
Defnydd cyffelybiaethol

Defnyddir crab (bachigyn gwrywaidd crebyn, ben. craben) yn ffiguraidd am greadur o ddyn sur afrywiog.

Llenyddiaeth (gan gynnwys Y Beibl)

[golygu | golygu cod]

Fel crab wrth afal croywber Fydd rhai o'r gwledydd i'r glêr 1445-75 (Gwaith Guto'r Glyn 1939)

Ny phell gwyd aval o avall 13G Llyfr Aneirin

y marchawc aranassei yr aualeu yn Ilys Arthur 13G Llyfr Gwyn y Mabinogion

yn rhostiaw nid llwyddaw lles
kegyrn ebrwydd y koeges
... syganai'r wrach sebach son
syre praw yfale surion
15G Tudur Penllyn

Meddyginiaethol ayb.

[golygu | golygu cod]

Un cyfeiriad ym Meddygon Myddfai.

Bwyd a diod

[golygu | golygu cod]

Jeli afalau surion

Offer ac ati

[golygu | golygu cod]

Fe ddefnyddir y pren ar gyfer dodrefn cain, handlenni offer, cerfio cain, pennau morthwylion pren, turnio, a gwrthrychau arbenigol eraill o bren. Mae gan bren yr afallen wyllt dueddiad cryf i grebachu[9]

Ffermwriaeth

[golygu | golygu cod]

Cofnodir yr afallen fel coeden a docwyd y canghennau oddiarno yn rheolaidd (pollard) mewn rhai mannau.

Fe'i defnyddir fel bonyn i impio cwltifarau domestig arno.

Cofnododd larll Orford iddo blannu 5000 "crabb setts" mewn gwrych yn Swydd Gaergrawnt yn 1718. Efallai fod hyn yn arfer ehangach gan ystadau'r cyfnod.

Er mwyn gwella ansawdd amaethyddiaeth, bu'n arfer gan y cymdeithasau amaethyddol yng Nghymru yn yr 18G i wobrwyo perchnogion, tenantiaid ac eraill am bob mathau o ymarfer da. Cynigiodd y rhan fwyaf ohonynt wobrau am blannu gwrychoedd; drain gwynion ("white-thorn quicks"), celyn a choed afalau surion oedd y rhai a nodwyd.

Dyma gofnod enghreifftiol o ddyddiadur William Bulkeley dyddiedig 27 Hydref 1748 yn son am y patrwm o blannu: ...about noon, made some Sun shine in the Evening & continued dry, but rained very hard about 8 at night My People to day begun the new ditch at the South Side of Cae'r Iarlles ( the other Sides of it being finished last year ) and they plant it all about with two rows of Crab & Hawthorn sets, & at proper distances there are Elm, Ash, & the gret Maple or Sycamore planted all about it....[8]

....ac yna o'r driniaeth wrth blannu:

14 Tachwedd 1752: The Wind S. W. blowing very moderate, Sun shiny, fair & pleasant all day; but it had made a very great rain sometime before day this morning. To Day my people begun to make a new ditch [clawdd yn hytrach ffôs?] in the field adjoining to that last year, and plant it with haw thorn & Crab quick as they had done the 2 years before, onely with this difference, that the Bank where the quicksets are planted is entirely made of the under soil, the upper spit of mould being all within the bank : Ash trees [hefyd wedi eu plannu yn yr un clawdd] [8]

Addurn a delweddau/symbolaeth

[golygu | golygu cod]

Mewn cerdyn post, wedi cael ei ysgrifennu gan rhywun o'r enw Jess o Raeadr Fawr Aber, Abergwyngregyn yn y flwyddyn 1912 (ar y 27 o fis Ebrill yn al y marc post) delwedd. Ysgrifennodd fel hyn:

Lunch time We are sitting up by the falls — it looks lovely.....I shall be very busy all the way back as I have seen several blossom trees and the girls think I shall have to climb them... O adnabod yr ardal heddiw angen ffynhonnell, ac o wybod amser y flwyddyn yr ysgrifennwyd y nodyn, gellir tybio mai blodau'r afallen sydd gan Jess. Maent yn niferus lawn yr holl ffordd i'r rhaeadr yn y fangre hon. Beth oedd rheswm Jess am fwriadu eu casglu? Addurn i'w thy neu westy, neu destun i'w baentio efallai?

Celf

Ffrwyth y cwltifarau yn hynod boblogaidd a niferus fel testun artistiaid bywyd Ilonydd.

Bywyd Ilonydd Cezanne gydag afalau

Rhinweddau cemegol

[golygu | golygu cod]

Mae hadau afal yn cynnwys seianinau gwenwynig i nadu anifeiliaid rhag eu bwyta au difa mae'n debyg. Bu farw dyn yn yr UD ar ôl bwyta cwpan llawn o had afalau[10].

Meddygaeth

[golygu | golygu cod]

Datblygodd ddynion nifer o blanhigion cnwd yn ddiarwybod trwy groesi dwy rywogaeth tebyg na fyddent wedi ymgyffwrdd fel arall. Fel arfer, nid yw'r ddwy rywogaeth mor agos fel y bydd eu hepil yn ffrwythlon, and gyda threigl amser caiff y nifer o gromosomau eu dyblu i greu ffurf ffrwythlon. Credir i'r goeden afal ddomestig fynd trwy'r broses hon, proses sydd yn gyffredin yn hanes y ddynoliaeth (ee. gwenith, ac yn llawer mwy diweddar, cordwellt).

Hanesyddol

[golygu | golygu cod]

Mewn mannau Ile mae coed afalau surion yn gyffredin (megis yn nyffryn Abergwyngregyn) gellir efallai defnyddio patrwm eu Iledaeniad ar y tir i ddehongli hanes y tirlun a'r defnydd a wnaed o'r fangre yn y gorffennol. Er enghraifft, yn y fan honno, gallai'r patrwm fod naill ai yn ganlyniad i ymwelwyr i'r Rhaeadr Fawr yn taflu eu hafalau i ochr y Ilwybr ar ôI eu bwyta, neu i fodolaeth hen berllanoedd, neu i weddillion coed a ffurfiai ran o hen wrychoedd terfyn, neu gallant fod yn arwydd yn y fan Ile tyfant o ddiffyg coed eraill am gyfnod hir.

Cyfeirir at 11 rhywogaeth o goeden yn benodol yn Y Deddfau Cymreig, yn eu plith, y goeden afalau. Rhoddwyd gwerth o 60 ceiniog ar goeden afalau ond hanner hynny ar grabas ffrwythog. Gwerth crabas cyn ffrwytho oedd 4 ceiniog.

Tua diwedd ei deyrnasiad fel Brenin Gwynedd, dywedir i Gruffydd ap Cynan (c. 1055-1137) wella hwsmoniaeth yn ei frenhiniaeth trwy 'blannu hen goedwigoedd' a gwneud perllannoedd a gerddi. (Gallai'r hanesyn amwys hwn olygu adnewyddu hen goedwigoedd megis coedydd copi darfodedig neu fforestydd naturiol goraeddfed, trwy eu tanblannu neu ail blannu)

Cyfeirir yn y Siarteri Eingl-Sacsonaidd at ddraenen wen, draenen ddu ac afal ddwywaith yn amlach yn yr ardaloedd a gafodd eu clirio o'r fforest hynafol yn gynnar nac yn yr ardaloedd Ile ceir hen goedwigoedd yn parhau.

Coed afalau oedd 97% y cyfeiriadau at goed o rywogaethau penodol (658 ohonynt) yn y Siarteri Engl-Sacsonaidd a Chymreig.

0 dan y drefn Normanaidd Ganol Oesol cafodd yr afallen ei chyfrif mewn rhai mannau fel vert (sef gwyrddni a warchodwyd mewn deddf). Ceir manylion amryw o droseddau yn erbyn y vert yn Ardudwy, Meirion am y cyfnod Hydref 1325 i Medi 1326, megis cymryd Ilwythi o subboscus ("underwood") a virgarum (gwiail) gan gynnwys un grabas o 9 o goed a gafodd eu henwi.

Cyfeiria Siartiau Eingl-Sacsoneg (639) a Chymreig (21) at 787 o goed, y mwyafrif o rywogaethau a nodwyd. Cyfeiriadau yw rhain at goed a blannwyd yn hytrach nag at coed y fforest a'r mwyaf cyffredin ohonynt (y data Cymreig heb ei wahanu) oedd y coed afalau (yr un gwyllt mae'n debyg, gan amlaf, ac fe gyfeirir ato ambell dro fel "sour appletree".

Gerddi

1734 / 35 11th. The Wind E. pretty calm weather dark & cloudy cold & dry - Grafted stocks [the plural 's' has been added with a different ink sw] in the little Garden. viz. 4 with Golden Pippins. Marked with ye number 5. [? sw] <[? sw]> with � Grafting ['Grafting' is in the margin, opposite this line sw] ye little, round, hard Pippin N. 9. one pear stock with a Bur[ee sw] [Beurre? sw] Pear N. 8. two crab stocks in ye Orchard by the Rose Border with Non Pareil N. 4. three pear stocks in the same place with Summer Bon[e sw]retian N. i0 � one stock in ye Border of the Poplar nursery with [L sw]yons from ye Aple tree next ye Wall garden gate N. 7. one stock in ye same border with the small round Pippin in N. [? sw] & one plumb stock in the Middle of the Poplar nursery with the Orleans plumb N.[8]

Cyfeiriadau, ffynonellau, liyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

1 Enwau Planhigion......•

2 Stace C. (1997).........

3 Parry M. (1971) Enwau Blodau, Ilysiau a Choed Gwasg Prifysgol Cymru

4 Davies D. & Jones A. (1995) Enwau Cym......

5 0nions C.T. (1966)

6 Geiriadur y Brifysgol

7 Huxley A. ( ) Plant and Planet

8 Rackham 0. (1990) Hayley Wood, it's history and ecology Cambs W Trust

9 Rackham 0. The Last Forest — the story of Hatfield Forest

10 Linnard W. (2000) Welsh Woods and Forests (gol. 2) Gwasg Gomer

11 Cooper M.R. & Johnson A.W. (1984)Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man HMSO

12 Tansley A.G. (1939) The British Islands and their Vegetation Gwasg Prifysgol Caergrawnt

13 Rackham O. (1986) The History of the British Countryside Gwasg Phoenix

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. B.C. Bennett (undated). Economic Botany: Twenty-Five Economically Important Plant Families. [http: //www.eolss.net/Sample-Chapters/C09/E6-118-03.pdf Encyclopedia of Life Support Systems (EOLSS) e-book]
  3. Rackham, O. (1989)The Last Forest: the story of Hadfield Forest (Phoenix)
  4. Tansley, A.G. (1965)The British Islands and their Vegetation (CUP)
  5. Juniper, B.E. & Mabberley D.J. (2006): The Story of the Apple
  6. Geiriadur Prifysgol Cymru|http://welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html
  7. Rackham O. (1986) The History of the British Countryside Gwasg Phoenix
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 Bulkeley, W. (c.1750) "Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Môn" (Adran Archifau Prifysgol Bangor)
  9. http://www.wood-database.com/apple/
  10. Cooper, M.R. & Johnson, A.W. (1984) Poisonous Plants an their effects on Animals and Man HMSO
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: