Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Corn Celtaidd

Oddi ar Wicipedia
Corn Celtaidd
MathOfferyn Celtaidd
Deunyddefydd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd200 CC Edit this on Wikidata
Daeth i ben200 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Corn Geltaidd a ddarganfuwyd yn Tintignac, Ffrainc

Chwythbren hynafol a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn rhwng tua 200 BC a AD 200 oedd y corn Celtaidd, neu'r catgorn (Saesneg: carnyx, ynganiad:ˈkɑːrnɪks). Math o drymped a wnaed gydag efydd ydoedd, gyda siâp S hirgul. Yr oedd ganddo ben siâp baedd cegrwth neu anifail arall.

Hanes ac archaeoleg

[golygu | golygu cod]

Symbolaeth

[golygu | golygu cod]

Yn ynysoedd Prydain yn yr Oes Haearn, roedd symbolaeth anifeiliaid yn fodd o gyfleu naws ymosodol a ffyrnig, gydag enghreifftiau'n cynnwys baedd gwyllt ar darian Witham, corn Deasgard, yr Alban o faedd a phâr o gleddyfau gyda dreigiau arnynt o afon Tafwys.[1]

Defnydd

[golygu | golygu cod]

Mae tystiolaeth i awgrymu y byddai'r Corn yn cael ei ddal gan bennaeth, fel y dangosir gan ffigwr Bituitos a oedd o bosib yn Frenin Galaidd.[2]

Archaeoleg

[golygu | golygu cod]

Roedd darnau arian a fathwyd gan y Rhufeiniaid yn dangos trympedi rhyfel y Celtiaid. Mae'r trympedi Celtaidd hyn yn annhebyg i utgyrn Rhufeinig, gan fod ganddynt "bennau angenfilod".[3]

Roedd y Corn Celtaidd neu Alaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Celtiaid mewn ffordd debyg i'r ffordd roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio baneri a bu enghreifftiau o'r Cyrn yn Rhufain mewn cofiant o frwydrau yn erbyn y Galiaid. Ceir enghraifft o gorn â phen y Ddraig ar waelod Colofn (Rhufeinig) Trajan.[4]

Disgrifiwyd y Corn gan rai'r un fath â thrymped Dacia. Mae tebygrwydd amlwg rhwng corn Celtaidd y Galiaid a baner draig Dacia La Tène a gemwaith gyda dreigiau a seirff.[5]

Mae dynes sy'n dal corn Celtaidd hefyd yn ymddangos ar fronblat yr ymerawdwr Awgwstws.[6]

Darganfuwyd corn Celtaidd efydd gyda phen baedd yn dyddio o'r Oes Haearn yn Suffolk, Lloegr yn 2021.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Garrow, Duncan (2008-10-01). Rethinking Celtic Art (yn Saesneg). Oxbow Books. t. 65. ISBN 978-1-84217-318-3.
  2. Megaw, J. V. S. (1970). Art of the European Iron Age: A Study of the Elusive Image (yn Saesneg). Adams & Dart. t. 177. ISBN 978-0-239-00019-4.
  3. The Numismatic Chronicle, and Journal of the Numismatic Society (yn Saesneg). Tayor & Walton. 1865. t. 11.
  4. Kinnee, Lauren (2018-03-12). The Greek and Roman Trophy: From Battlefield Marker to Icon of Power (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-351-84657-8.
  5. Pârvan, Vasile (1928). Dacia: An Outline of the Early Civilizations of the Carpatho-Danubian Countries (yn Saesneg). CUP Archive.
  6. Penner, Todd C.; Stichele, Caroline Vander (2007). Mapping Gender in Ancient Religious Discourses (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-15447-6.
  7. "Rare Bardwell Iron Age trumpet sells for more than £4k". BBC News (yn Saesneg). 2021-12-03. Cyrchwyd 2023-02-07.