Danaë
Ym mytholeg Roeg mae Danaë yn ferch i'r brenin Acrisius o Argos. Cafodd ei chloi i fyny mewn tŵr efydd gan ei thad am ei fod yn ofni oracl a broffwydolasai y byddai mab iddi yn ei ladd.
Syrthiodd Zeus, prif dduw y pantheon Olympiaidd, am y ferch a llwyddodd i cael cyfathrach â hi trwy newid ei hun yn gawod o aur a disgyn yn ei harffed trwy dwll yn y to (symbolaidd am belydrau'r haul yn ffrwythlonni'r ddaear yn y gwanwyn). Esgorodd Danaë ar fab, yr arwr Perseus. Mewn braw ac ofn am ei fywyd, gorchmynodd y brenin i Danae a'i fab gael eu rhoi mewn cist neu gasgen o ryw fath a'u taflu i'r môr. Gyrrwyd y gist gan y tonnau i ynys Seriphos lle cafodd Danae a'i fab gysgodi yn nhŷ'r bugail (neu bysgotwr) Dictys. Roedd brawd Dictys, Polydectes, pennaeth yr ynys, eisiau cael Danaë i'w briodi ond gwrthododd hi. Yn y diwedd llwyddodd ei fab Perseus i ddianc gyda hi o'r ynys a'i dychwelyd i dir mawr Groeg.
Yn ogystal â'r motif llên gwerin rhyngwladol am blentyn yn cael ei daflu ar drugaredd y dyfroedd mewn cist o ryw fath, fel yn achos Gwion Bach (Taliesin Ben Beirdd) a Moses, mae'n amlwg fod cysylltiad rhwng Danae â'r duwiesau ffrwythlondeb, efallai fel agwedd ar Y Fam Dduwies, neu Dduwies y Ddaear ei hun.
Mae'n bosibl hefyd fod yr enw Danae yn amrywiad ar enw duwies adnabyddus a enwir Dôn yn y traddodiad Cymreig; ceir olion o'i henw ar afonydd ledled Ewrop.
Cyfansoddodd y bardd Simonides delyneg enwog am Danaë.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)