Ernest Renan
Ernest Renan | |
---|---|
Ganwyd | Joseph Ernest Renan 28 Chwefror 1823 Landreger |
Bu farw | 2 Hydref 1892 Paris, 5ed arrondissement |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | Doctor of Arts in France |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, hanesydd, llenor, athro cadeiriol, archeolegydd, dwyreinydd, beirniad llenyddol, ieithegydd, diwinydd |
Swydd | Director of the Collège de France, arlywydd, arlywydd, arlywydd, seat 29 of the Académie française |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | History of the Origins of Christianity, Q97160166 |
Priod | Cornélie Renan |
Plant | Ary Renan, Noémi Renan |
Gwobr/au | Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Volney Prize, Urdd y Rhosyn |
llofnod | |
Awdur, athronydd a hanesydd o Lydaw oedd Joseph Ernest Renan (28 Chwefror 1823 – 2 Hydref 1892). Roedd yn ysgolhaig Hebraeg ac un o feddylwyr pwysicaf ei ganrif yn Ffrainc. Cofir amdano heddiw yn bennaf fel awdur Qu'est-ce qu'une nation? ("Beth yw cenedl?").
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganed Renan yn Tréguier, tref Lydaweg ei hiaith yn y Côtes-d'Armor yng ngogledd Llydaw.
Gweithiau nodedig
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd nifer fawr o lyfrau ar wahanol bynciau; ei lyfr enwocaf yw Vie de Jésus ("Bywyd yr Iesu"), ymgais i ysgrifennu bywgraffiad oedd yn cynnwys beirniadaeth o'r Beibl fel ffynhonnell. Bu trafodaeth mawr am y llyfr, a chryn ddigofaint ar ran yr Eglwys Gatholig. Achosodd sgandal oherwydd iddo drin bywyd Crist o safbwynt hanesyddol yn hytrach na diwinyddol, a thrwy hynny amau duwdod Iesu.
Ond ef hefyd yw awdur un o'r traethodau pwysicaf yn hanes astudiaethau Celtaidd, sef La poésie des races celtiques ["Barddoniaeth yr hiliau Celtaidd"] (1854). Yn y traethawd hwn, honna Renan nad oes un pobl neu hil wedi bod mor agos at fodau isfyd natur â'r Celtiaid, sy'n mwynhau perthynas bur ac uniongyrchol â'r byd naturiol yn gyffredinol. I'r perwyl hwn dyfynna'n awgrymog, ond yn ddetholus, o lenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol.
Mae Renan yn adnabyddus hefyd am ei ddiffiniad o genedl yn Qu'est-ce qu'une nation? (1882). Roedd athronwyr Almaenaidd megis Johann Gottlieb Fichte wedi diffinio cenedl fel "hil" neu grŵp ethnig oedd a nodweddion cyffredin, iaith er enghraifft. Yn ôl diffiniad Renan, yr hyn oedd yn creu cenedl oedd y dymuniad i fyw gyda'i gilydd.
Amheuaeth
[golygu | golygu cod]Mae Patrick Sims-Williams ac eraill wedi bwrw amheuaeth ar safbwynt Renan, gan ddadlau bod ei orbwyslais ar bwysigrwydd anifeiliaid i'r Celtiaid yn amlygu agwedd nawddoglyd a threfedigaethol. Dylanwadodd y traethawd ar Matthew Arnold, deiliad cyntaf y Gadair Geltaidd yn Rhydychen ac awdur On the Study of Celtic Literature (1867). Yn achos Arnold, ochr yn ochr â'r magical charm of nature a'r fairy-like loveliness of Celtic nature, ceir y farn ganlynol: 'I must say I quite share the opinion of my brother Saxons as to the practical inconvenience of perpetuating the speaking of Welsh'. Felly gwelir agwedd Brydeinig yng ngwaith Arnold fel y gwelir agwedd Paris-ganolog yn Renan. Cydnabyddir Renan ac Arnold fel dau o sylfaenwyr Astudiaethau Celtaidd modern, ond hefyd fel tarddle sgyrsiau ar 'Geltigiaeth' [Celticism], sy'n cyfateb i drafodaeth a sgyrsiau gan Edward Said yn ei gyfrol ddylanwadol Orientalism (1978). Ar ddiwedd ei oes, daeth yn un o hoelion wyth y 'Dîners celtiques' (Ciniawau Celtaidd).
Gweithiau cyflawn
[golygu | golygu cod]- Histoire générale et systèmes comparés des langues sémitiques (1845)
- L'âme bretonne (1854)
- Études d'histoire religieuse (1857)
- De l'origine du langage (1858)
- Essais de morale et de critique (1859)
- Prière sur l'Acropole (1865)
- Histoires des origines du Christianisme - 7 volumes - (1863-1881)
- La réforme intellectuelle et morale (1871)
- Drames philosophiques
- Souvenirs d'enfance et de jeunesse (1883)
- Histoire du peuple d'Israël (1887-1893), 5 volumes
- L'avenir de la science, pensées de 1848 (1890)
- Gwleidyddiaeth
- Questions contemporaines (1868)
- Llenyddiaeth
- Essais de morale et de critique (1859)
- Henriette Renan, souvenir pour ceux qui l'ont connue (1862)
- Mélanges d'histoire et de voyages (1878)
- Discours et conférences (1887)
- Feuilles détachées (1892)
- Patrice (1908)
- Fragments intimes et romanesques (1914)
- Voyages : Italie, Norvège (1928)
- Sur Corneille, Racine et Bossuet (1928)
- Athroniaeth
- Averroës et l'averroïsme (1852)
- De philosophia peripatetica, apud Syros (1852)
- Dialogues et fragments philosophiques (1876)
- Examen de conscience philosophique (1889)
- Hanes a chrefydd
- Étude d'histoire religieuse (1857)
- Le livre de Job (1858)
- Le cantique des cantiques (1860)
- Histoire littéraire de la France au XIVe siècle (1865), avec la collaboration de Victor Le Clerc
- La réforme intellectuelle et morale (1871)
- Conférences d'Angleterre (1880)
- L'ecclésiaste (1881)
- Nouvelles études d'histoire religieuse (1884)
- Le bouddhisme Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback (1884), Editions Lume
- Études sur la politique religieuse du règne de Philippe le Bel (1899)
- Mélanges religieux et historiques (1904)
- Essai psychologique sur Jésus-Christ (1921)
- Ieithyddiaeth ac archaeoleg
- De l'origine du langage (1848-1858)
- Histoire générale des langues sémitiques (1855)
- Mission de Phénicie (1864-1874)
- Llythyrau
- Lettres intimes (1896)
- Nouvelles lettres intimes (1923)
- Correspondace avec Berthelot (1898)
- Lettres du séminaire (1902)
- Emanuelle (1913)
- Lettres à son frère Alain (1926)
- Correspondance (1927)
- Cahiers de jeunesse (1906)
- Nouveaux cahiers de jeunesse (1907)
- Travaux de jeunesse (1931)
- Mission de Phénicie (1865-1874)
- La poésie des races celtiques.
- Qu'est-ce qu'une nation ? (Conférence prononcée le 11 mars 1882 à la Sorbonne)
- L'avenir de la science[dolen farw] (1890)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]