Llyn Llanwddyn
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru, Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.78°N 3.5°W |
Rheolir gan | Hafren Dyfrdwy |
Cymunedau Cymreig a ddinistrwyd |
---|
Cwm Tryweryn (1965) |
Mynydd Epynt (1949) |
Cwm Elan (1893) |
Llanwddyn (1888) |
WiciBrosiect Cymru |
Cronfa ddŵr yw Llyn Llanwddyn neu Llyn Efyrnwy, y gronfa gyntaf i'w chreu yng Nghymru i gyflenwi dŵr i Loegr. Adeiladwyd yr argae rhwng 1881 a 1888 gan Gorfforaeth Dinas Lerpwl, a oedd yn gweld yr angen am gronfa i sicrhau cyflenwad dŵr digonol i'w dinasyddion. Drwy godi'r argae i ffrwyno nifer o afonydd a nentydd yn Nyffryn Efyrnwy, fe foddwyd hen bentref Llanwddyn. Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol ar 14 Gorffennaf 1892.
Llanwddyn
[golygu | golygu cod]Roedd pentref Llanwddyn, ym mhen uchaf Dyffryn Efyrnwy yn bentref gweddol ei faint ac yn eithaf nodweddiadol o bentrefi'r cyfnod. Parhaodd pobl y pentref i fyw yno wrth i'r argae gael ei baratoi gan Gorfforaeth Lerpwl. Codwyd pentref newydd (a gadwodd yr enw Llanwddyn) yn is i lawr y dyffryn yn gartref newydd i'r pentrefwyr. Pan gwblhawyd yr argae, collwyd dau gapel, tair tafarn, deg ffermdy, a 37 o dai o dan y dŵr. Mae olion rhai o'r adeiladau i'w gweld o hyd ar dywydd sych.
Yr argae
[golygu | golygu cod]Roedd yr argae ei hun yn uchelgeisiol iawn yn ei oes, ac fe gymerodd saith mlynedd i'w godi fel y nodwyd eisoes. Hwn oedd yr argae carreg cyntaf yng ngwledydd Prydain, wedi'i adeiladu â thalpiau mawr o lechen Cymru. Costiodd £620,000 i'w godi, tua £22,000,000 yn arian heddiw.
Y gronfa ddŵr
[golygu | golygu cod]Mae'r gronfa ei hun yn enfawr; hi oedd y fwyaf yn Ewrop pan gafodd ei chodi. Pan fo'n llawn mae'n dal 59,666 megalitr o ddŵr (13,000,000 o alwyni), ac mae ei harwynebedd yn 1,121 o erwau, yn gymaint â chwe chant o gaeau pêl-droed. Mae 31 o nentydd, rhaeadrau ac afonydd yn rhedeg i'r gronfa i gyd. Enwir y chwe afon isod:
- Afon Hirddu
- Eunant
- Afon Eiddew
- Afon Naedroedd
- Afon Cedig
- Afon y Dolau Gwynion
Heddiw
[golygu | golygu cod]Erbyn hyn mae Llyn Llanwddyn a'r ardal o'i gwmpas yn fangre hardd sy'n gartref i adar prin o dan ofalaeth yr RSPB, ac yn gyrchfan ar gyfer gweithgareddau agored gan gynnwys hwylio, dringo creigiau a seiclo. Fodd bynnag, fe'i cofir hefyd gan lawer o Gymry fel y cyntaf o nifer o ymosodiadau cynyddol ddadleuol ar dir a daear Cymru i sicrhau cyflenwad dŵr i ddinasoedd Lloegr.