Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Oklahoma!

Oddi ar Wicipedia
Oklahoma!
Poster cynhyrchiad cyntaf ar Broadway (1943)
CerddoriaethRichard Rodgers
GeiriauOscar Hammerstein II
LlyfrOscar Hammerstein II
Seiliedig arDrama Lynn Riggs
Green Grow the Lilacs
Cyhoeddiadau1943 Broadway
1947 West End
1951 Broadway revival
1955 Film
1979 Broadway revival
1980 West End revival
1998 West End revival
2002 Broadway revival
2003 US Tour
2010 UK Tour
2015 UK Tour
Gwobrau1993 Special Tony Award
(50th Anniversary)
1944 special Pulitzer Prize
1999 Olivier Award for Best Musical Revival

Mae Oklahoma! yn Sioe Gerdd gyda cherddoriaeth gan Richard Rodgers a geiriau gan Oscar Hammerstein II. Cafodd ei berfformio gyntaf ar Broadway ar 31 Mawrth, 1943. Cafodd ei berfformio yn y West End ar 18 Ebrill, 1947. Seiliwyd y sioe ar ddrama Lynn Riggs, Green Grow the Lilacs 1931.[1] Mae'r stori wedi'i lleoli yng nghefn gwlad tu allan i dref Claremore, Roger's County, Oklahoma, ym 1906. Mae'n adrodd hanes merch fferm, Laurey Williams, a'i charwriaeth gyda dau ddarpar gymar sy'n cystadlu am ei serch, y cowboi Curly McLain a'r gwas ffarm sinistr a brawychus Jud Fry. Mae rhamant eilaidd yn y stori am y berthynas rhwng y cowboi Will Parker a'i chariad, y fflyrt Ado Annie.[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriad Disgrifiad Actor yn y perfformiad cyntaf
Curly McLain Cowboi mewn cariad â Laurey Alfred Drake
Laurey Williams Nith modryb Eller, dynes ifanc annibynnol Joan Roberts
Jud Fry Gwas fferm ar ransh Modryb Eller, dyn unig, dirgel a pheryglus Howard Da Silva
Modryb Eller Modryb Laurey, dynes fawr ei pharch yn y gymdogaeth Betty Garde
Ado Annie Carnes Dynes ifanc hygoelus sy'n hoff o fflyrtian Celeste Holm
Will Parker Dyn ifanc syml sydd mewn cariad ag Ado Annie Lee Dixon
Andrew Carnes Tad Ado Annie, sy'n awyddus i'w gweld hi'n priodi Ralph Riggs
Ali Hakim Pedler o Bersia sy'n ffansio Ado Annie Joseph Buloff
Gertie Cummings Merch ifanc leol, sy'n hoff o Curly, mae'n priodi Ali Hakim Jane Lawrence
Curly'r breuddwyd Curly yng ngolygfa'r breuddwyd Marc Platt
Laurey'r breuddwyd Laurey yng ngolygfa'r breuddwyd Katharine Sergava

[3]

Golygfa: Tiriogaeth Oklahoma ym 1906.[4]

Mae'r cowboi, Curly McLain, yn edrych ymlaen at y diwrnod hyfryd sydd i ddod wrth iddo grwydro mewn i iard y fferm lle mae Laurey Williams yn byw (Oh, What a Beautiful Mornin'). Mae ef a Laurey yn profocio ei gilydd, tra bod ei Modryb Eller yn syllu arnynt. Bydd dawns werin yn cael ei gynnal y noson honno. Ar ôl y ddawns bydd ocsiwn o fasgedi cinio a baratowyd gan y merched lleol i godi arian ar gyfer tŷ ysgol. Bydd y dynion sy'n ennill basged yn bwyta cinio gyda'r wraig a'i paratowyd. Mae Curly yn gofyn i Laurey fynd i'r ddawns gydag ef, ond mae hi'n gwrthod, gan deimlo ei fod wedi aros yn rhy hir cyn gofyn. Mae'n ceisio ei pherswadio trwy ddweud wrthi y bydd yn mynd â hi yn y cerbyd gorau gall arian ei brynu (The Surrey with the Fringe on Top). Mae Laurey yn gwneud hwyl am y syniad o gerbyd crand gan brofocio Curley i ddweud ei fod yn cellwair am y cerbyd ac nad yw'n bodoli. Mae Laurey yn cerdded i ffwrdd, heb sylweddoli bod Curley wedi rhentu'r fath gerbyd mewn gwirionedd. Mae'r gwas fferm unig, gythryblus, Jud Fry wedi magu obsesiwn efo Laurey ac yn gofyn iddi hi mynd i'r ddawns gydag ef. Mae hi'n derbyn er mwyn sbeitio Curly, er ei bod yn ofni Jud. Yn y cyfamser, mae'r cowboi Will Parker yn dychwelyd gyda llwyth o gofroddion o daith i ffair yn ninas Kansas (Kansas City). Enillodd $50 yn y ffair yn Kansas. Roedd Andrew Carnes tad ei gariad, Ado Annie, wedi dweud wrtho na chai priodi Annie heb fod $50 o arian wrth gefn ganddo. Yn anffodus, treuliodd yr holl arian ar anrhegion i Annie. Roedd Will wedi prynu anrheg i Andrew hefyd, teclyn o'r enw'r Little Wonder. Mae'r Little Wonder yn diwb metal i'w defnyddio ar gyfer gwylio lluniau, ond yn ddiarwybod i Will mae hefyd yn cynnwys llafn miniog dirgel. Mae Ado Annie yn cyfaddef wrth Laurey ei bod wedi treulio llawer o amser gyda Ali Hakim, pedler o Bersia tra bod Will wedi bod i ffwrdd. Mae Laurey yn dweud wrthi y bydd yn rhaid iddi ddewis rhyngddynt, ond mae Ado Annie yn mynnu yn caru'r ddau (I Cain't Say No). Mae Laurey a'i ffrindiau'n paratoi ar gyfer y ddawns, tra bod Gertie Cummings yn fflyrtian gyda Curly. Mae Laurey yn dweud wrth ei ffrindiau nad yw'n malio dim am Curly (Many a New Day). Mae Andrew Carnes yn canfod Annie gydag Ali Hakim. Ar ôl holi Ado Annie am eu perthynas, mae'n bygwth Hakim gyda dryll i'w gorfodi priodi Annie. Mae Hakim a'r dynion eraill yn cwyno am annhegwch y sefyllfa (It's a Scandal! It's a Outrage!). Mae Curly yn darganfod bod Laurey yn mynd i'r ddawns gyda Jud ac yn ceisio ei argyhoeddi i fynd gydag ef. Gan ofni dweud na wrth Jud mae Laurey yn ceisio argyhoeddi Curly (a'i hun) nad yw hi'n ei garu (People Will Say We're in Love). Wedi'i brifo o gael ei wrthod, mae Curly yn mynd i'r tŷ mwg lle mae Jud yn byw i siarad ag ef. Mae Curly yn awgrymu, gan nad yw Jud yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, gallai ladd ei hun, a byddai pawb, wedyn, yn sylweddoli faint yr oedd yn meddwl iddynt (Pore Jud Is Daid). Mae eu sgwrs yn troi yn gwrthdaro bygythiol am Laurey. Wedi i Curly ymadael mae penderfyniad Jud i briodi Laurey yn dod yn gryfach (Lonely Room).

Golygfa'r breuddwyd

[golygu | golygu cod]

Wedi'i ddrysu gan ei theimladau tuag at Curly a'i ofn o Jud, mae Laurey yn prynu diod hud (y cyfeirir ato fel halen arogli, ond oedd mewn gwirionedd yn lodnwm) gan Ali Hakim. Bydd y ddiod hud, yn ôl y pedler diegwyddor, yn datgelu ei gwir gariad. Mae hi'n gyffrous wrth feddwl y bydd ei breuddwyd yn datgelu ei gwir gariad (Out of My Dreams), ac yn mynd i drwmgwsg o dan ddylanwad yr opiad. Mae dilyniant bale estynedig yn darlunio breuddwyd Laurey. Mae'n breuddwydio am sut beth fyddai bod yn briod i Curley. Mae ei freuddwyd troi'n hunllef pan fo Jud yn ymddangos ac yn lladd Curly. Mae'r freuddwyd yn ei gwneud iddi sylweddoli mai Curly yw'r dyn iawn iddi hi. Wedi deffro mae hi'n canfod ei fod yn rhy hwyr i newid ei meddwl am fynd i'r ddawns gyda Jud, mae o wedi cyrraedd i'w hebrwng hi yno, ac maent yn gadael gyda'i gilydd.

Act II

[golygu | golygu cod]

Yn y ddawns, yn ystod dawns sgwâr fywiog (The Farmer and the Cowman), mae'r anghydfod rhwng y ffermwyr lleol a'r cowbois dros ffensys a hawliau dŵr yn arwain at ymladd. Mae Modryb Eller yn dod a'r ffrae i ben trwy danio gwn i dawelu pawb. Mae Laurey yn teimlo loes o weld Curly yn y ddawns gyda Gertie. Mewn ymdrech i gael gwared ar Ado Annie ei hun, mae Ali Hakim yn prynu cofroddion Will o Kansas am $50. Mae Jud hefyd yn cyfrannu at hyn trwy brynu 'r Little Wonder, gan wybod am y llafn sydd wedi'i guddio ynddi. Mae'r arwerthiant am y basgedi bwyd yn dechrau ac mae Will yn cynnig $50 am fasged Ado Annie, heb sylweddoli heb y $50, na fyddai ganddo'r arian wrth gefn sydd angen iddo i gael caniatâd ei thad i'w priodi. Mae Ali Hakim yn gwybod os nad oes gan Will digon o arian i gael priodi Ado Annie bydd o'n gorfod ei phriodi. Gan hynny mae o'n cynnig $51 i gael y fasged er mwyn i Will cael mynd at Andrew Carnes gyda'r $50 a hawlio Annie fel ei briodferch. Mae'r arwerthiant yn dod yn llawer mwy difrifol pan fydd basged Laurey yn cael ei gynnig ar werth. Mae Jud wedi arbed ei holl arian er mwyn iddo ennill basged Laurey. Mae dynion amrywiol yn ceisio prynu'r fasged, i geisio amddiffyn Laurey rhag Jud, ond mae Jud yn eu curo i gyd. Mae Curly a Jud yn cymryd rhan mewn rhyfel bidio ffyrnig, ac mae Curly yn gwerthu ei gyfrwy, ei geffyl, a hyd yn oed ei gwn i godi arian. Mae Curley yn llwyddo talu mwy na Jud ac yn ennill y fasged. Mae Jud yn ceisio lladd Curly gyda'r Little Wonder, ond mae ei gynllun yn cael ei chwalu pan mae Modryb Eller (sy'n gwybod beth sy'n digwydd) yn gofyn i Curly am ddawns. Mae Will ac Annie yn ail gymodi ac mae hi'n cytuno i beidio a fflyrtio mwy (All Er Nuthin'). Mae Jud yn dweud wrth Laurey am ei deimladau dwys tag ati. Pan mae hi'n dweud nad yw hi'n teimlo'r un fath, mae'n ei bygwth. Mae hi wedyn yn ei ddiswyddo ef fel ei gwas ffarm, gan sgrechian arno i ymadael a'i heiddo. Mae Jud yn bygwth Laurey yn ffyrnig cyn iddo ymadael. Yn llawn dagrau mae Laurey yn galw am Curly. Mae hi'n dweud wrtho ei bod wedi diswyddo Jud ac yn ofni beth y gallai Jud ei wneud nawr. O weld bod Laurey wedi troi ato am gyngor ac amddiffyniad mae Curly yn sylweddoli bod hi yn ei wir garu ac yn gofyn am ei llaw mewn priodas. Mae hi'n derbyn y cynnig (People Will Say We're in Love (atbreis)). Mae'n sylweddoli bod rhaid iddo bellach ddod yn ffermwr. Wedi hynny, mae Ali Hakim yn penderfynu gadael y diriogaeth ac yn ffarwelio ag Ado Annie ar ôl dweud wrthi mae Will yw'r dyn y dylai hi ei briodi. Tair wythnos yn ddiweddarach, mae Laurey a Curly yn briod ac mae pawb yn llawenhau wrth ddathlu'r briodas a'r ffaith bod tiriogaeth Oklahoma ar fin dod yn un o'r Unol Daleithiau (Oklahoma). Yn ystod y dathliad, mae Ali Hakim yn dychwelyd gyda'i wraig newydd, Gertie, a briododd dan bwyso ar ôl cael ei fygwth gan ei thad gyda gwn. Mae Jud meddw yn ymddangos, ac yn aflonyddu ar Laurey trwy ei chusanu. Mae o'n taro Curly, ac maen nhw'n dechrau ymladd. Mae Jud yn ymosod ar Curly gyda chyllell ond mae Curley yn llwyddo i'w osgoi gan achosi Jud i syrthio ar ei gyllell ei hun. Mae Jud yn marw. Mae'r gwesteion priodas yn cynnal achos llys byrfyfyr i roi Curley ar brawf am ladd Jud. Mae'r barnwr, Andrew Carnes, yn datgan y dyfarniad: dieuog! Mae Curly a Laurey yn gadael ar eu mis mêl yn y cerbyd surrey gydag rhidens ar ei dop (Finale Ultimo) .

Caneuon

[golygu | golygu cod]

[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Oklahoma! (ffilm 1955)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Ysgol y Celfyddydau, Prifysgol Carolina, Gogledd Carolina ymgais i ail greu Oklahoma fel y'i cynhyrchwyd ym 1943 mae eu cynhyrchiad i weld ar YouTube:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]