Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Philippe d'Orléans

Oddi ar Wicipedia
Philippe d'Orléans
Ganwyd21 Medi 1640 Edit this on Wikidata
Saint-Germain-en-Laye Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1701 Edit this on Wikidata
Saint-Cloud Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethcasglwr celf, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddDug Anjou, Duke of Orléans Edit this on Wikidata
TadLouis XIII, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
MamAnna o Awstria Edit this on Wikidata
PriodHenrietta o Loegr, Elizabeth Charlotte, y Dywysoges Palatine Edit this on Wikidata
PartnerPhilippe of Lorraine, Armand de Gramont, Comte de Guiche Edit this on Wikidata
PlantMarie Louise d'Orléans, Anne Marie d'Orléans, Élisabeth Charlotte d'Orléans, Philippe, dug Orléans, brenin Ffrainc, Philippe Charles, Duke of Valois, Alexandre-Louis d'Orléans, stillborn son d'Orléans, unnamed daughter d'Orléans Edit this on Wikidata
LlinachQ42880782 Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Mab ieuengaf Louis XIII, brenin Ffrainc, a'i wraig Ann o Awstria oedd Philippe d'Orléans (21 Medi 16409 Mehefin 1701). Rhoddwyd iddo'r teitl Dug Anjou o'i enedigaeth ac roedd yna'n Ddug Orléans ar farwolaeth ei ewythr Gaston yn 1660. Ei frawd hynaf, Louis XIV, brenin Ffrainc, oedd y roi soleil. Tra theyrnasodd ei frawd, fe'i adnabyddid yn syml fel Monsieur, teitl traddodiadol y llys Ffrengig a roddwyd i'r mab ieuengaf.

Yn 1661 derbyniodd ddugaeth Valois a Chartres.[1] Yn dilyn ei lwyddiant milwrol yn 1671, ychwanegwyd dugaeth Nemours, fel rhodd gan ei frawd y brenin, ac yna ardalaeth Valois, Chartres ac eraill.[2]

Ymfalchïodd yn ei ystumiau a'i olwg merchetaidd, ac roedd yn ŵr hoyw, a hynny'n agored. Ond gwnaeth ei ddyletswydd traddodiadol gan briodi ddwywaith a daeth yn dad i sawl plentyn. Yn wir, ef yw sefydlydd llinach Orléans a Bourbon, ac roedd felly'n un o hynafiaid Louis Philippe I, brenin Ffrainc, a deyrnasodd rhwng 1830 hyd at 1848. Oherwydd ei ddisgynyddion Catholig, gelwir ef, bellach, yn "Dadcu Ewrop".[3] Mae hefyd yn nodedig am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Cassel yn 1677. Ychwanegodd at gyfoeth llinach Orléans, yn bennaf oherwydd ei allu gweinyddol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Anthony, Louisa. Footsteps to history, being an epitome of the histories of England and France, from the fifth to the nineteenth century (1852), tud. 195.
  2. Lane, William Coolidge. "A.L.A. Portrait Index: Index to Portraits Contained in Printed Books" (1906), tud. 1099. B. Franklin.
  3. Mitford, tud. 55