Porthdinllaen
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9429°N 4.568°W |
Cod OS | SH276416 |
Cod post | LL53 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentre bychan yng nghymuned Nefyn, Gwynedd, Cymru, yw Porth Dinllaen[1][2] neu Porthdinllaen ( ynganiad ). Saif agos at Forfa Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol amdano er 1994. Gweler oddi yno olygfeydd o'r Eifl ac Eryri. Mae'r dafarn "Tŷ Coch" yn ganolfan i'r pentre. Mae'r enw i'w ganfod gyntaf yn 1263: Portdinllaen. Porth ydy porthladd, din ydy'r gaer ar y pentir a elwir Trwyn Porth Dinllaen ac ystyr "llaen" ydy "Llŷn".
Rhaid i ymwelwyr gerdded ato dros y traeth o Forfa Nefyn, neu dros dir y clwb golff ar y pentir, gan fod ceir wedi'u gwahardd.
Mae'r pentrefan yn hen borthladd pysgota, sydd ar y pen gorllewinol o'r bae 1.25 milltir llydan, a chyda 100 erw o angorfeydd diogel. Roedd y lle'n fwrlwm o longau sgota mor diweddar â'r 19g.[3] Fe'i hawgrymyd fel porth i longau i'r Iwerddon yn gynnar y 19g, ond dewiswyd Caergybi yn ei le.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
- ↑ Dictionary of Place-names of Wales (Gwasg Gomer)
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- "Porthdinllaen", Gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y pentref o gyfeiriad Morfa Nefyn.
-
Porth Dinllaen o faes parcio Morfa Nefyn
-
Porth Dinllaen o faes parcio Morfa Nefyn
-
Porth Dinllaen; golygfa o'r cwrs golff
-
tai'r pentref
-
Y bae