Caint
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Ardal weinyddol | De-ddwyrain Lloegr, Lloegr |
Prifddinas | Maidstone |
Poblogaeth | 1,731,400, 1,846,478, 1,647,100, 1,868,199, 1,855,842 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 3,738.4799 km² |
Yn ffinio gyda | Essex, Dwyrain Sussex, Surrey, Llundain Fwyaf, Sir Llundain |
Cyfesurynnau | 51.19°N 0.73°E |
GB-KEN | |
Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km². Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.
Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop – dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cap Gris-Nez, gogledd Ffrainc.
Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng "Caint" a'r gair Cymraeg cantel ('ymyl'), gan ei bod ar "ymyl" Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma yr Iwtiaid a greasant deyrnas Seisnig Caint, yng nghanol y 5g, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Er bod enwau Celtaidd yn weddol brin yng Nghaint o'i gymharu ac ardaloedd eraill Lloegr, mae nifer o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg,[1] er enghraifft Thanet a Dover. Mae rhai haneswyr, megis Myres, wedi gweld parhâd nifer o enwau lleoedd Brythoneg yma fel tystiolaeth i'r boblogaeth frodorol oroesi yma'n well nag mewn ardaloedd eraill de-ddwyrain Lloegr.[2]
Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y 6g.
Enw arall a roddir ar Gaint yw'r "Garden of England" ("Gardd Lloegr") oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ("oast-houses"), lle sychir yr hopys, yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ardaloedd awdurdod lleol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn ddeuddeg ardal an-fetropolitan ac un awdurdod unedol:
- Ardal Sevenoaks
- Bwrdeistref Dartford
- Bwrdeistref Gravesham
- Bwrdeistref Tonbridge a Malling
- Medway – awdurdod unedol
- Bwrdeistref Maidstone
- Bwrdeistref Tunbridge Wells
- Bwrdeistref Swale
- Bwrdeistref Ashford
- Dinas Caergaint
- Ardal Folkestone a Hythe
- Ardal Thanet
- Ardal Dover
Etholaethau seneddol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn 17 etholaeth seneddol yn San Steffan:
- Ashford
- Caergaint
- Chatham ac Aylesford
- Dartford
- De Thanet
- Dover
- Faversham a Chanol Caint
- Folkestone a Hythe
- Gillingham a Rainham
- Gogledd Thanet
- Gravesham
- Maidstone a'r Weald
- Rochester a Strood
- Sevenoaks
- Sittingbourne a Sheppey
- Tonbridge a Malling
- Tunbridge Wells
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr
- Ynys Gaint, ger Porthaethwy
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dinas
Caergaint
Trefi
Ashford ·
Broadstairs ·
Chatham ·
Cranbrook ·
Dartford ·
Deal ·
Dover ·
Edenbridge ·
Faversham ·
Folkestone ·
Fordwich ·
Gillingham ·
Gravesend ·
Hawkinge ·
Herne Bay ·
Hythe ·
Lydd ·
Maidstone ·
Margate ·
Minster-on-Sea ·
New Romney ·
Northfleet ·
Paddock Wood ·
Queenborough ·
Rainham ·
Ramsgate ·
Rochester ·
Royal Tunbridge Wells ·
Sandwich ·
Sevenoaks ·
Sheerness ·
Sittingbourne ·
Snodland ·
Southborough ·
Strood ·
Swanley ·
Swanscombe ·
Tenterden ·
Tonbridge ·
Walmer ·
West Malling ·
Westerham ·
Westgate-on-Sea ·
Whitstable