Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Port Láirge

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Waterford)
Port Láirge
ArwyddairY Ddinas nas Gorchfwyd Edit this on Wikidata
Mathdinas, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Poblogaeth48,369 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Rochester, Sant-Ervlan, St John's, Køge Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Waterford Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd41.58 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2583°N 7.119°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolSwyddfa Maer Waterford Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholdeddfwrfa Tref a Swydd Waterford Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Waterford Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn ne-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon a phrif ddinas Swydd Waterford yw Port Láirge[1] (Saesneg: Waterford). Hi yw pumed dinas Gweriniaeth Iwerddon o ran maint, gyda phoblogaeth o 49,240 yn 2006.

Sefydlwyd y ddinas gan y Llychlynwyr yn 914; daw'r enw Saesneg o'r enw Llychlynnaidd Veðrafjǫrðr. Saif ar Afon Súir, ac mae wedi bod yn borthladd pwysig ers canrifoedd. Yn y 19g roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig, ond mae'r ddinas yn fwyaf adnabyddus am ei gwydr; mae Waterford Crystal yn adnabyddus trwy'r byd.

Baner Iwerddon yn cyhwfan o hen Glwb Wolfe Tone, ar y Mall yn Port Láirge, lle chwifiodd Thomas Francis Meagher y faner am y tro cyntaf yn 1848

Port Lairge yw dinas hynaf Iwerddon, ers ei sefydlu gan y Llychlynwyr yn 914. Daeth ei enw o'r Hen Norseg Vedrarfjord ("fjord gwyntog"). Yn 1137, methodd Diarmuid MacMorrough, brenin Laighin, yn ei ymgais i'w hymgorffori yn y deyrnas. Ymgeisiodd eto yn 1170 gyda milwyr cyflog Normanaidd dan arweiniad Richard de Clare, 2il Iarll Penfro (Strongbow); gyda'i gilydd buont yn gwarchae ac yn meddiannu Waterford ar ôl amddiffynfa ffyrnig. Byddai hyn yn golygu mynediad yr Eingl-Normaniaid i Iwerddon. Ym 1171, aeth Harri II o Loegr i Waterford. Cyhoeddwyd Waterford a Dulyn yn ddinasoedd brenhinol, a chyhoeddwyd Dulyn yn brifddinas Iwerddon. Yn ystod y cyfnod yma, codwyd wal gerrig i amddiffyn y ddinas ac yn ystod y 13eg ganrif fe'i hategwyd â thŵr a elwir heddiw yn Dŵr Reginald.[2]

Ers yr hen amser bu'n un o borthladdoedd pwysicaf Iwerddon, ac ers y 19g yn ganolfan ddiwydiannol bwysig, yn enwedig ar gyfer gwydr.

Cyfnod modern

[golygu | golygu cod]

Roedd y 18g yn gyfnod o ffyniant mawr i'r ddinas. Ymddangosodd llawer o'r gweithiau pensaernïol gorau yn ystod y cyfnod hwn. Daeth y fasnach barhaus a thoreithiog â Newfoundland â chyfoeth mawr i'r trydydd porthladd mwyaf ar y pryd. Yn y ganrif ganlynol, cododd diwydiannau pwysig, megis gwneud gwydr ac adeiladu llongau. Chwifiodd Thomas Francis Meagher (1823–1867), cenedlaetholwr Gwyddelig, y faner trilliw Wyddelig am y tro cyntaf erioed o adeilad Clwb Wolfe Tone yn y Mall yn y ddinas ar 7 Mawrth 1848.

Yn gynnar yn yr 20g roedd John Redmond (1856–1918) yn Aelod Seneddol dros Waterford. Redmond oedd arweinydd Plaid Genedlaethol Iwerddon sef, plaid Charles Stewart Parnell oedd yn ymgyrchu dros Senedd i'r Iwerddon ac hunanlywodraeth o fewn Ymerodraeth Prydain.

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  2. Lars G. Holmblad (1995), Nordisk Vikingaguide, Stockholm: Statens Historiska Museums förlag, p. 185