William Stanley (Brwydr Bosworth)
William Stanley | |
---|---|
Ganwyd | c. 1435, 1437 |
Bu farw | 16 Chwefror 1495 Tower Hill |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | milwr |
Tad | Thomas Stanley |
Mam | Joan Goushill |
Priod | Joan Beaumont, Elizabeth Hopton, Joyce Charlton |
Plant | Jane Stanley |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Milwr ac uchelwr Seisnig oedd Syr William Stanley KG (c. 1435[1] – 16 Chwefror 1495) a brawd iau Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby. Ymladdodd mewn sawl brwydr yn Rhyfel y Rhosynnau. Yn 1483 fe'i gwnaed yn Brif Ustus Gogledd Cymru ac wedi coroni Richard II, brenin Lloegr trosglwyddwyd rhagor o dir iddo yng Nghymru.[2] Er iddo fod yn allweddol ym muddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Maes Bosworth fe'i dienyddiwyd ddeg mlynedd yn ddiweddarach am deyrnfradwriaeth.
Fe'i ganed yn Lytham St Annes, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i Thomas Stanley, barwn cyntaf Stanley. Trigodd yn Holt ger Wrecsam gyda'i briod Joan, merch John Beaumont. Tua 1471, priododd yr ail dro, i Elizabeth Hopton, merch Thomas Hopton a chawsant un ferch, Jane Stanley.[3]
Newid ei gôt ym Mrwydr Maes Bosworth
[golygu | golygu cod]Iorcydd oedd Stanley am rai blynyddoedd a chydnabyddwyd ef yn strategaethwr milwrol da. Ymladdodd ym Mrwydr Tewkesbury yn 1471, ac ef a ddaliodd y Frenhines Margaret o Anjou, arweinydd y Lancastriaid ac fe'i gwnaed yn Farchog Banneret gan y brenin.
Bu'n driw i Edward IV a'i frawd Richard III ar ei ôl. Ond yn 1485, newidiodd ei liwiau, gan ochri gyda Harri Tudur ac ymgyrch y Lancastriaid. Mae'n fwyaf enwog am ei ran ym Mrwydr Bosworth, pan lwyddodd Harri Tudur i orchfygu'r Iorcwyr a chipio Coron Lloegr. Fel diolch, gwnaed ef yn Arglwydd Siambrlen.
Roedd Richard wedi'i amau ef a'i frawd iau Thomas ers tro, ac ofnodd y byddai'n deyrngar i Harri Tudur, a gwireddwyd hyn. Yn haf 1485 mynnodd Richard III fod Thomas yn danfon ei fab (George Lord Strange) ato fel gwystl, a gwnaeth hynny. Yn ôl cerdd Gymraeg o'r cyfnod hwn, cymerodd y brenin gwystl arall: nai William Stanley (ar ochr ei wraig) sef William Gruffudd a wnaed yn Siambarlen Gwynedd yn 1843.[4] Pe bai Thomas neu William wedi ochri gyda Harri'n agored, byddai'r ddau wystl wedi'u dienyddio. Cadw'n niwtral wnaeth y Stanleys, felly, tan y funud olaf.
Torri ei ben
[golygu | golygu cod]Fodd bynnag, yn 1495 fe'i cyhuddwyd am gefnogi Perkin Warbeck i ddisodli Harri Tudur, a chytunodd iddo wneud hynny. Plediodd yn euog gan y credodd y byddai Harri Tudur yn maddau iddo.[5] Ond gosodwyd ef fel esiampl i eraill ac o fewn dyddiau torrwyd ei ben fel cosb.
Roedd Richard III yng Ngogledd Lloegr pan glywodd fod Harri Tudur wedi glanio ym Mhenfro a galwodd am gymorth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ODNB
- ↑ "William Stanley – A Yorkist". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-03. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2010.
- ↑ "Thepeerage.com". Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2010.
- ↑ Bosworth - The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore; t. 250; Phoenix Press; 2013.
- ↑ Seaacome, John. The History of the House of Stanley. t. 55. Cyrchwyd 2011-12-04.