Emiliano Zapata
Emiliano Zapata | |
---|---|
Emiliano Zapata yn ei wisg filwrol | |
Ganwyd | 8 Awst 1879 Anenecuilco |
Bu farw | 10 Ebrill 1919 o anaf balistig Morelos |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Galwedigaeth | partisan, chwyldroadwr, ffermwr |
Priod | Josefa Espejo Sánchez |
Plant | Paulina Ana María Zapata Portillo |
llofnod | |
Chwyldroadwr o Fecsico oedd Emiliano Zapata (8 Awst 1879 – 10 Ebrill 1919) a oedd yn un o arweinwyr amlycaf Chwyldro Mecsico. Arweiniodd ei fyddin o herwfilwyr, y Zapatistas, yn ei ymgyrch dros agrariaeth a diwygio'r drefn tir yng nghefn gwlad Mecsico.
Bywyd cynnar (1879–1910)
[golygu | golygu cod]Ganed Emiliano Zapata Salazar ar 8 Awst 1879 ym mhentref Anenecuilco, Morelos, Mecsico, i deulu o werinwyr mestiso, o dras Sbaenaidd a Nahua mae'n debyg. Buont yn berchen ar dyddyn bach, ac enillodd ei dad arian drwy hyfforddi a gwerthu ceffylau. Bu farw ei dad pan oedd Emiliano yn 17 oed, a bu'n rhaid iddo ofalu am ei frodyr a chwiorydd.
Cafodd ei arestio ym 1897 am wrthdystio'r hacienda a gymerodd feddiant ar diroedd gwerinwyr Anenecuilco. Wedi iddo dderbyn pardwn, parhaodd i gynhyrfu o blaid yr achos amaethol, felly cafodd ei alw i'r fyddin gan yr awdurdodau. Gwasanaethodd yn y fyddin am chwe mis, nes iddo gael ei ryddhau i hyfforddi ceffylau ar gyfer tirfeddiannwr lleol. Etholwyd Zapata yn llywydd ar fwrdd amddiffyn y pentref ym 1909. Methiant a fu'r ymdrech i drafod rhwng y gwerinwyr a'r tirfeddianwyr, felly arweiniodd Zapata griw i feddiannu'r tiroedd a gymerwyd gan y haciendas drwy rym a'u hailddosbarthu.[1]
Chwyldro 1910–11
[golygu | golygu cod]Wedi i'r unben Porfirio Díaz ennill yr etholiad arlywyddol ym 1910 drwy dwyll, penderfynodd Zapata a nifer o herwfilwyr gwerinol eraill gefnogi ei wrthwynebydd Francisco Madero. Ym Mawrth 1911 cipiodd Zapata ddinas Cuautla gyda'i fintai fechan a chaeodd y ffordd i Ddinas Mecsico. Wythnos yn ddiweddarach, ymddiswyddodd Díaz a ffoes i Ewrop, gan benodi Francisco León de la Barra yn arlywydd dros dro. A Madero ar fin cipio'r arlywyddiaeth, ymsefydlodd Zapata yn Cuernavaca, prifddinas daleithiol Morelos, gyda 5000 o'i ryfelwyr.[1]
Dychwelodd Madero i Ddinas Mecsico ym Mehefin 1911, ac yno cyfarfu â Zapata. Gofynnodd Zapata iddo bwyso ar yr Arlywydd Léon de la Barra i adfer trefn cytir yr ejido. Gorchmynnodd Madero i Zapata ddadfyddino'i herwfilwyr, ond gwrthodai Zapata pan anfonodd Léon de la Barra y fyddin yn ei erbyn.[1]
Ymgyrchoedd yn erbyn Madero a Huerta (1911–14)
[golygu | golygu cod]Wedi i Madero ennill yr etholiad arlywyddol yn Nhachwedd 1911, penderfynodd Zapata fod Madero yn ben ar lywodraeth wrthchwyldroadol. Gyda chymorth un o'i swyddogion, yr athro Otilio Montaño, lluniodd Zapata Gynllun Ayala, a ddatganwyd ar 28 Tachwedd. Cytunodd arwyddwyr y ddogfen hon i barhau â'r chwyldro, i benodi arlywydd dros dro arall cyn rhagor o etholiadau, ac i ddychwelyd tir yr ejidos drwy ddifeddiannu traean o'r haciendas. Mabwysiadodd Zapata yr arwyddair "Tierra y Libertad" ("Tir a Rhyddid") ar gyfer ei chwyldro amaethol. Yn ystod ei ymgyrchoedd yn erbyn yr haciendas, llosgwyd eiddo'r tirfeddianwyr yn aml heb iawndal, a chafodd rhai eu dienyddio ar orchymyn Zapata. Codwyd gordrethi ar gyfoethogion y dinasoedd i dalu'r gwrthryfelwyr, a chipiwyd eu harfau oddi ar luoedd ffederal.[1]
Wedi i Victoriano Huerta gipio'r arlywyddiaeth a llofruddio Madero yn Chwefror 1913, gorymdeithiodd Zapata a'i fyddin i gyrion Dinas Mecsico, a gwrthododd gynnig i ymgynghreirio â Huerta. Yn sgil buddugoliaeth y Fyddin Gyfansoddiadol, dan arweiniad Venustiano Carranza, ymddiswyddodd Huerta yng Ngorffennaf 1914. Estynodd Zapata ei law i Carranza, gan wahodd y Cyfansoddiadwyr i gytuno i Gynllun Ayala. Galwyd Cynhadledd Aguascalientes gan Carranza yn Hydref 1914, ac yno cytunodd chwyldroadwyr Zapata a Pancho Villa i benodi Eulalio Gutiérrez yn arlywydd dros dro. Gwrthodwyd y penderfyniad hwn gan Carranza, a aeth i Veracruz gyda'i lywodraeth a lluoedd o Carrancistas.
Ymgyrch yn erbyn Carranza (1914–19)
[golygu | golygu cod]Yn y cyfnod hwn o'r chwyldro, brwydrodd y Cynhadleddwyr (gan gynnwys y Zapatistas) yn erbyn y Carrancistas. Ar 24 Tachwedd 1914, anfonodd Zapata ei luoedd—bellach o'r enw Byddin Rhyddhau'r De—i feddiannu Dinas Mecsico. Daeth rhyw 25,000 o chwyldroadwyr tlawd, ac aethant ati i erfyn bwyd gan y trigolion yn hytrach nac anrheithio'r ddinas. Dwy wythnos yn ddiweddarach, cyfarfu Zapata â Villa ar gyrion y brifddinas ac ymwelasant â'r Palas Cenedlaethol. Cytunodd y ddau i frwydro'n erbyn Carranza ac i gadw at Gynllun Ayala.
Wrth i'r rhyfel yn erbyn y Carrancistas barhau, aeth Zapata ati i gyflwyno diwygiadau amaethol ym Morelos. Sefydlwyd comisiynau amaethol i ailddosbarthu'r tir, a threuliodd Zapata gryn dipyn o'i amser yn goruchwylio'r gwaith hwn. Sefydlwyd hefyd y Banc Benthyciadau Gwledig, y banc cyntaf o'i fath ym Mecsico, i ddarparu credyd i amaethwyr, a cheisiodd Zapata ad-drefnu'r diwydiant siwgr ym Mecsico yn ffermydd cydweithredol.[1]
Cafodd Zapata ragor o fuddugoliaethau ar faes y gad, a llwyddodd i feddiannu Puebla, un o ddinasoedd mwyaf y wlad. Er gwaethaf, cipiodd Carranza yr arlywyddiaeth drwy alw Cynhadledd Gyfansoddiadol Querétaro ym 1916, ac ynyswyd Zapata yn sgil gorchfygiad Villa gan luoedd Carranza ym 1917.
Llofruddiaeth (1919)
[golygu | golygu cod]Cynllwyniodd y Cadfridog Pablo González, a oedd yn rheoli ymgyrch y llywodraeth yn erbyn y Zapatistas, i ladd Zapata drwy gael y Cyrnol Jesús Guajardo i esgus ymuno â'r achos amaethol. Trefnwyd cudd-gyfarfod rhwng Zapata a Guajardo yn hacienda Chinameca, Morelos, ac yno, ar 10 Ebrill 1919, saethwyd Emiliano Zapata yn farw gan gudd-ymosodwyr o'r Carrancistas. Cludwyd ei gorff i Cuautla i'w gladdu.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Emiliano Zapata. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Chwefror 2021.